Asesu, dewis a thaenu colur er mwyn newid edrychiad y perfformiwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i asesu, dewis a thaenu colur er mwyn newid edrychiad y perfformiwr.
Mae'r safon hefyd yn ymdrin â sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus ac wedi derbyn yr holl wybodaeth am y broses. Mae'n ymwneud â dewis y cyfarpar, nwyddau a'r dulliau priodol i daenu colur. Yn ogystal, mae'n ymdrin â sicrhau y caiff y lliw ei gynnal o dan amodau'r cynhyrchiad. Hefyd mae'n ymwneud â dwyn i ystyriaeth y gofynion iechyd a diogelwch wrth daenu colur.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd wedi cwblhau hyfforddiant cychwynnol ac sy'n meddu ar ychydig o sgiliau a phrofiad o daenu colur.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i gynorthwywyr colur ac artistiaid colur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu a chydnabod y gofynion colur yn unol â'r cynllun a'r cynhyrchiad
- paratoi'r cyfarpar i'w ddefnyddio
- hysbysu'r perfformiwr o'r broses taenu colur a chadarnhau eu bod yn gyfforddus yn ystod y broses
- gwirio croen y perfformiwr am adweithiau niweidiol posib i'r nwyddau rydych yn bwriadu eu defnyddio
- dewis a thaenu colur er mwyn bodloni'r gofynion dylunio
- chwistrellu paent a thaenu colur ar y corff a'r wyneb gan gynnwys asesu lliw i fodloni'r gofynion dylunio
- gweithredu'n briodol ac ar unwaith pe bai nwyddau yn achosi adweithiau niweidiol
- sicrhau bod y perfformiwr mor gyfforddus â phosib wrth daenu a thynnu'r colur
- cydymffurfio gyda'r polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch wrth weithio gyda cholur
- cynnal, glanhau a chadw cyfarpar wedi ichi ei ddefnyddio
- cofnodi gwybodaeth ynghylch y colur a'r broses y bu ichi ei defnyddio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod ac asesu'r gofynion colur yn unol â'r cynllun
- adnabod y gofod gwaith, yr amgylchedd, unrhyw alergeddau a sensitifeddau, math croen, lliw, gofal croen ac amseriadau
- pwysigrwydd safle'r cyfarpar a sicrhau bod y perfformiwr yn gyfforddus
- sut i wirio am adwaith niweidiol a phwysigrwydd gwirio o leiaf 24 awr cyn taenu'r cynnyrch ar y croen
- sut i weithredu pan fo colur yn achosi adweithiau niweidiol i groen
- y gwahanol dechnegau taenu colur ar y corff a'r wyneb e.e. brwshys, sbyngau, dotweithio, peintio, chwistrellu paent, stensiliau, addurniadau
- defnydd technegau asesu lliw gan gynnwys cymysgu lliwiau, dyfrlliw, aroleuadau ac arlliwiau
- sut i ddefnyddio technegau chwistrellu paent gan gynnwys technegau chwistrellu (llinellau, mannau, arlliwiau, aroleuo ac arliwio; gorchuddio; dyfrliwio cyfartal); defnyddio stensiliau, templedi, masgio; tatŵs dros dro, peintio'r corff a rhoi lliw haul
- y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i daenu colur
- pwysigrwydd cadw cofnodion
- sut i gynnal, glanhau a chadw colur a'r cyfarpar