Cyfrannu tuag at y broses dylunio a chaffael adnoddau ar gyfer gwallt, wigiau, colur a gwaith prostheteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gyfrannu tuag at y broses dylunio a chaffael adnoddau ar gyfer gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynyrchiadau.
Mae'n ymwneud â dewis y deunyddiau a'r cyfarpar sy'n gweddu i anghenion y cynhyrchiad ac offer personol ar gyfer y math hwn o waith.
Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chanfod cyflenwyr a allai gynnig y nifer priodol o'r deunyddiau a'r cyfarpar gofynnol a thrin a thrafod gyda chyflenwyr er mwyn derbyn y rhain gan gadw at y gyllideb a'r amserlen.
Mae'n ymdrin â sicrhau eich bod yn cadw cofnodion cywir o'r deunyddiau a'r cyfarpar y byddwch chi'n eu caffael.
Mae'r safon hon fwyaf perthnasol i ddylunwyr ac artistiaid gwallt a cholur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar ofynion technegol a chreadigol y cyfarwyddyd dylunio gyda'r dylunydd a thîm y cynhyrchiad
- cytuno ar y rolau a'r cyfrifoldebau gyda'r dylunydd a thîm y cynhyrchiad
- cyfrannu tuag at y dyluniad
- dewis cyflenwyr sy'n gallu cynnig y deunyddiau a'r cyfarpar cost effeithiol yn unol â chyllideb ac amserlen y cynhyrchiad
- cofnodi a chadw gwybodaeth am ymchwil dylunio er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol
- gwirio bod y cyflenwyr rydych chi wedi'u dewis yn gallu cyflenwi'r deunyddiau a'r cyfarpar ar gyfer y gwaith er mwyn bodloni'ch gofynion o ran y dyluniad
- caffael y gymeradwyaeth briodol ar gyfer y deunydd a'r cyfarpar gan gynnwys y gost
- trin a thrafod a chytuno ar yr amodau a thelerau ynghlwm â chyflenwi neu logi'r deunyddiau a'r cyfarpar gyda'r cyflenwyr a gwirio bod y cynnyrch dewisol yn ddiogel i'w defnyddio
- cadw cofnodion o'r deunyddiau a'r cyfarpar rydych wedi'u caffael ar gyfer gwaith trin gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
- ymdrin ag unrhyw oedi gyda chyflenwi
- cydymffurfio gyda pholisi dychwelyd pob cyflenwr
- cyfathrebu gyda thîm y cynhyrchiad ynghylch cynnydd
- trefnu ffitiadau ac apwyntiadau gyda'r perfformwyr a'r darparwyr allanol er mwyn bodloni amserlen y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion creadigol a thechnegol y cyfarwyddyd dylunio
- cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran amser a'r gyllideb
- pwysigrwydd egluro'r rolau a'r cyfrifoldebau gyda'r dylunydd gwallt a/neu golur a chydweithwyr y cynhyrchiad
- sut i gaffael cyflenwyr
- sut i drefnu ffitiadau ac apwyntiadau sy'n bodloni amserlen y cynhyrchiad ac sy'n gyfleus i bawb ynghlwm
- sut i gadw cofnodion am ymchwil dylunio er mwyn gallu cyfeirioatyn nhw yn y dyfodol
- y deunyddiau a'r cyfarpar gofynnol ynghyd â'r meini prawf i'w ddwyn i ystyriaeth wrth werthuso cyflenwyr gan gynnwys yr ansawdd ofynnol, y nifer, math o adnoddau/cyfarpar ynghyd â'u heffaith ar y gost, yr amserlen a'r rheoliadau iechyd a diogelwch
- y gyllideb gallwch fanteisio arni a phwy yw’r unigolyn perthnasol i gymeradwyo unrhyw wariant gyda nhw
- sut i drin a thrafod a chytuno ar amodau a thelerau gyda chyflenwyr ar gyfer cyflenwi neu logi'r deunyddiau a'r cyfarpar
- sut i gaffael a defnyddio arian parod a'r gwaith papur perthnasol ar gyfer hyn
- pwysigrwydd cydymffurfio gyda'r polisi dychwelyd ar gyfer y cyflenwyr
- y dogfennau gofynnol i gyflenwi'r deunyddiau a'r cyfarpar
- y dulliau cadw cofnodion ar gyfer y deunyddiau a'r cyfarpar y bu ichi eu caffael
- sut i ymdrin â phroblemau yn ymwneud â graddfeydd amser a chyflenwyr