Penderfynu ar ffurf derfynol y dyluniad ar gyfer gwallt, wigiau, colur, a phrostheteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gytuno ar a chwblhau'r dyluniadau gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynyrchiadau.
Mae'r safon yn ymdrin ag egluro'r dyluniad i aelodau o dîm y cynhyrchiad a chanfod datrysiadau i broblemau wedi'u hadnabod yn ystod y gwaith ymchwil ar gyfer y cynhyrchiad.
Mae'n ymwneud â sicrhau bod y dyluniad yn gweddu i "edrychiad" creadigol a thechnegol neu ddyluniad cyffredinol y cynhyrchiad. Mae'n ymwneud â chynllunio a rhannu gofynion eich dyluniad gan gynnwys llunio dogfennau'r cynhyrchiad. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chwblhau eich cyllideb a'r costau arfaethedig.
Mae'r safon hon yn fwyaf perthnasol i ddylunwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu ydy cysyniad dylunio gwallt a/neu golur yn cyfrannu tuag at ofynion y cynhyrchiad ar y cyd â thîm creadigol a thechnegol y cynhyrchiad
- datblygu cysyniad dylunio yn unol â genre, graddfa a math y cynhyrchiad ynghyd ag arddull weledol a dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
- llunio eich dogfennau eich hun i ffurfio cynllun realistig pan nad oes amserlen saethu neu pan fo'r amserlen yn anghywir
- cytuno ar newidiadau ac ystyried eu goblygiadau gyda'r tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ac adrannau perthnasol eraill
- canfod datrysiadau i broblemau cyflenwi, logistaidd, creadigol neu dechnegol wrth iddyn nhw godi yn ystod y cynhyrchiad
- nodi neu gadarnhau'r angen am staff, cyfleusterau a'r adnoddau ychwanegol i'r bobl berthnasol
- cynhyrchu amseroedd galw i'r perfformwyr er mwyn cwblhau gwalltiau, wigiau, colur a phrostheteg
- cyflwyno cofnodion a dogfennau wedi'u cwblhau i'r bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
graddfa a math y cynhyrchiad rydych yn gweithio arno ynghyd â'i arddull weledol cyffredinol
- y technegau datrys problemau creadigol, logistaidd, technegol a'r problemau cyflenwi
- sut i gyfathrebu'r gofynion o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg yn effeithiol i'r tîm, y cynhyrchiad ac unrhyw gwmnïau allanol
- pryd mae angen staff, cyfleusterau ac adnoddau ychwanegol
- sut i gadarnhau a ydy'r cyfleusterau angenrheidiol ar gael a lle i'w canfod
- sut i gynnig amseroedd galw cywir ar gyfer perfformwyr
- sut i gydymffurfio'n effeithiol gyda chynllun lle nad oes amserlen saethu neu pan fo'r amserlen saethu'n anghywir
- sut i gytuno ar newidiadau ac ystyried eu goblygiadau gyda'r tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg a'r adrannau perthnasol eraill
- pwysigrwydd penderfynu ar y gwariant a'r costau gyda'r rheiny a fyddai'n eu hawdurdodi
- gofynion Penaethiaid Adrannau eraill a phwysigrwydd cydweithio
- y canllawiau iechyd a diogelwch i gydymffurfio gyda nhw