Creu dyluniad gwreiddiol ar gyfer gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynhyrchu a chwblhau dyluniad y gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynhyrchiad.
Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag adnabod y cymeriadau a'u "hedrychiad" gofynnol o'r sgript ynghyd â deall yr edrychiad gofynnol ar gyfer gwahanol gymeriadau gan gynnwys: ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol, cyflwr iechyd, anaf posib, cyflyrau croen, oed neu liwiad yn ôl yr amgylchedd lle caiff y cynhyrchiad ei gynnal.
Bydd yn hanfodol adnabod faint o waith sydd angen ei wneud i newid edrychiad pob perfformiwr i fodloni anghenion y cynhyrchiad, a chydnabod lle bydd angen gofynion ac effeithiau arbennig i gynhyrchu'r dyluniad. Gallai'r math o ddyluniad ddibynnu ar y genre a gallai ymdrin ag edrychiadau neu ddelweddau hanesyddol, naturiol, cyfoes neu ffugwyddonol a sut y dylai'r rhain symud, eu gwytnwch a'u diben.
Mae'r safon yn ymdrin ag amcangyfrif yr amser paratoi a'r adnoddau angenrheidiol ynghyd â thrafod syniadau ar gyfer y dyluniad gyda'r cyfarwyddwr. Mae'n ymwneud â newid y dyluniad pan fo'n briodol er mwyn bodloni syniadau'r cyfarwyddwr a chytuno ar gyfaddawdau ynghylch y dyluniad.
Mae'r safon hon yn fwyaf perthnasol i ddylunwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli graddfa a math y cynhyrchiad rydych yn gweithio arno ynghyd â'i arddull weledol cyffredinol
- adnabod y gofynion o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer y cymeriadau neu'r perfformwyr y mae'r dyluniad yn berthnasol iddyn nhw
gwerthuso awgrymiadau a syniadau'r cyfarwyddwr ar gyfer y dyluniad gan ystyried eu dewisiadau creadigol a'u hymarferoldeb
dehongli edrychiad pob cymeriad ar y cychwyn ac wrth i'r cynhyrchiad ddatblygu
sefydlu a oes yna ofynion ar gyfer dyluniad gwallt, wigiau, colur a phrostheteg arbennig ac effeithiau arbennig corfforol
- cynhyrchu syniadau dylunio cychwynnol sy'n gyson gyda'r sgript ac sy'n bodloni cyfarwyddyd y cyfarwyddwr
- amcangyfrif a chadarnhau'r amser paratoi, y gyllideb a'r adnoddau gofynnol ar gyfer y dyluniad
- cyflwyno'ch syniadau dylunio i'r gwneuthurwyr penderfyniadau
- gweithio gyda chysyniadau'r cyfarwyddwr a chyfyngiadau'r cynhyrchiad yn eich dyluniad pan fo'n ofynnol
- egluro'r goblygiadau'r dyluniad y cytunwyd arno o ran yr amser a'r gyllideb i dîm y cynhyrchiad
- trin a thrafod a chytuno ar gyllidebau a graddfeydd amser ynghyd ag annog y cyfarwyddwyr i gytuno ar syniadau sydd o fewn y gyllideb ac sy'n ymarferol o ran logisteg
- cofnodi'r syniad dylunio y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr
- cadw cofnod o'r holl arian gafodd ei wario yn ystod y cynhyrchiad a chyflwyno dadansoddiad terfynol o'r gyllideb
- sicrhau y caiff y gofynion dylunio eu rhannu gyda'r tîm
- cysylltu gyda'r bobl berthnasol i gyflawni'r dyluniad gofynnol
- creu a chynnal amgylchedd gwaith diogel ar gyfer y tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i lunio dadansoddiad o'r sgript
- dadansoddiad o'r sgript, y gyllideb a'r amserlen ar gyfer y dyluniad
- math, graddfa ac arddull weledol y cynhyrchiad
- dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'u hymarferoldeb
- sut i ddehongli edrychiad ac edrychiad gofynnol pob cymeriad
- effaith posib amser y stori ar edrychiad unrhyw gymeriad
- a oes angen unrhyw golur arbennig, dyluniad gwallt neu effeithiau arbennig a phwy i gyfathrebu gyda nhw ar gyfer y gwaith hwn
- sut i lunio syniadau dylunio cychwynnol sy'n gyson gyda'r sgript ac sy'n ystyriol o'i chymeriadaeth
- sut i gyflwyno'ch syniadau dylunio i'r gwneuthurwyr penderfyniadau
- sut a phryd i gyfaddawdu gan newid eich syniadau i fodloni cysyniadau'r cyfarwyddwr a chyfyngiadau'r cynhyrchiad
- sut i gofnodi syniadau'r dyluniad, y cytunwyd arnyn nhw, yn gywir
- sut i drin a thrafod y cyllidebau a'r graddfeydd amser ar gyfer eich gwaith a gyda phwy y dylech chi eu trin a thrafod
- sut i egluro goblygiadau'r dyluniad o ran amser a'r gyllideb gyda thîm y cynhyrchiad
- pwy y dylech chi gyfathrebu gyda nhw ynghylch unrhyw broblemau gallai godi i'r adran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
- y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, y polisïau a'r canllawiau ar gyfer y cynhyrchiad a sut i rannu'r rhain gyda'r tîm
- sut i sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y tîm