Monitro a chynnal dilyniant edrychiad y perfformiwr
URN: SKSHWMP12
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i fonitro a chynnal dilyniant edrychiad y perfformiwr.
Mae'r safon yn ymdrin â sicrhau bod gwallt, wigiau, colur a phrostheteg y perfformiwr yn cyd-fynd gyda'r dyluniad a'r fanyleb ar gychwyn y cynhyrchiad a sicrhau y caiff ei gynnal drwy gydol y cynhyrchiad. Mae hefyd yn ymwneud â chadw cofnodion dilyniant a sicrhau nad ydych chi'n aflonyddu neu'n amharu ar unrhyw beth neu unrhyw un ar y set.
Mae'r safon hon ar gyfer holl aelodau'r tîm sy'n ymdrin â'r perfformwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau gofynion y fanyleb dylunio gyda'r unigolyn perthnasol
- sicrhau bod y deunyddiau a'r cyfarpar ar gael i gofnodi gwybodaeth a'u bod mewn cyflwr da cyn cychwyn y cynhyrchiad
- monitro a chynnal dilyniant y perfformiwr drwy gydol y cynhyrchiad
- gwirio a chytuno gyda'r unigolyn perthnasol bod gwallt, wigiau, colur a phrostheteg y perfformiwr yn bodloni'r fanyleb dylunio ar gyfer y cynhyrchiad
- cytuno ar addasiadau i walltiau, wigiau, colur a phrostheteg gyda'r bobl berthnasol o ganlyniad i ddigwyddiadau heb eu sgriptio yn ystod y cynhyrchiad
- tarfu cyn lleied â phosib ar y cynhyrchiad wrth wneud newidiadau i walltiau, wigiau, colur a phrostheteg
- cytuno ar newidiadau gyda'r unigolyn perthnasol
- cynnal cofnodion dilyniant i'w cadw yn y ffeil dilyniant gwallt a/neu golur a sicrhau bod cofnodion o'r fath yn gywir ac yn hygyrch
- cyfathrebu gyda thîm y cynhyrchiad i sicrhau dilyniant o'r cyfarwyddyd dylunio
- cyfathrebu gydag adrannau eraill i sicrhau y caiff y cyfarwyddyd dylunio ei fodloni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion dylunio y bu i'r unigolyn perthnasol eu rhannu gyda chi
- cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran yr amser a'r gyllideb
- manylion y dadansoddiad dilyniant o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
- y mathau o ddeunyddiau a'r cyfarpar angenrheidiol ar gyfer cofnodi gwybodaeth
- sut i gynnal dilyniant edrychiad y perfformiwr drwy gydol y cynhyrchiad e.e. hyd gwallt a chlwyfau sy'n datblygu
- pwy ddylech chi gytuno ar ddyluniad gwallt, wigiau, colur a phrostheteg y perfformiwr gyda nhw
- sut i wirio goblygiadau'r effeithiau datblygu yn y sgript gyda'r unigolyn perthnasol
- sut i gadarnhau bod gwallt, wigiau, colur a phrostheteg y perfformiwr ar gychwyn tynnu llun yn atgynhyrchu edrychiad drwy gydol y cynhyrchiad
- sut i gydnabod digwyddiadau posib wedi a heb eu sgriptio a allai effeithio ar wallt a cholur perfformiwr a sut ddylech chi weithredu
- pwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw ynghylch addasiadau angenrheidiol i wallt, wigiau, colur a phrostheteg
- sut i gynnal cofnodion cywir o fanylion dilyniant gwalltiau, wigiau, colur a phrostheteg
- pryd a phwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw yn yr adran camera a goleuo i sicrhau bod y llun ffotograffig yn bodloni dyluniad y cynhyrchiad
- pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol gyda thîm y cynhyrchiad i sicrhau eich bod yn cynnal dilyniant y cymeriadau a'r gweithrediadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSHM11
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
gwallt, colur, wigiau, prostheteg, dilyniant, perfformiwr, edrychiad, cynhyrchiad, dyluniad y cynhyrchiad, cynnal dilyniant, gofynion dylunio