Defnyddio technegau ar wallt perfformiwr er mwyn creu edrychiad gwahanol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gyflawni amryw ddulliau torri, lliwio, gosod a thrin i greu gwahanol edrychiad i wallt y perfformiwr ar gyfer cynyrchiadau.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â sicrhau bod perfformwyr yn gyfforddus ac yn gwbl ymwybodol o'r broses. Mae'n ymwneud â chydnabod priodweddau gwahanol fathau a gweadau gwallt gan gynnwys mathau cyrliog. Yn ogystal mae'n ymwneud â deall a dewis y cyfarpar, nwyddau a'r dulliau priodol i dorri, lliwio dros dro, gosod a thrin y gwallt.
Mae hefyd yn ymdrin â sicrhau y caiff steil y gwallt ei gynnal o dan amodau'r cynhyrchiad. Mae angen dwyn i ystyriaeth y gofynion iechyd a diogelwch wrth dorri, lliwio dros dro, gosod a thrin gwallt.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd wedi cwblhau hyfforddiant cychwynnol ac sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad o drin gwallt.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i gynorthwywyr gwallt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno ar a dewis y technegau torri, gosod, lliwio a thrin er mwyn bodloni gofynion y dyluniad gyda'r unigolyn perthnasol
- cytuno ar a dewis y cyfarpar a'r nwyddau gofynnol gyda'r dylunydd er mwyn creu'r edrychiad a'r effaith y cytunwyd arnyn nhw
- cynghori'r perfformiwr ynghylch y technegau a'r nwyddau gwallt rydych yn bwriadu eu defnyddio
- gwirio croen y perfformiwr am unrhyw adweithiau niweidiol posib i'r nwyddau rydych yn bwriadu eu defnyddio
- gweithredu'n briodol ac ar unwaith os bydd nwyddau yn achosi adweithiau niweidiol
- sicrhau bod y perfformiwr mor gyfforddus â phosib pan fyddwch yn ail-steilio'u gwallt
- paratoi'r gwallt ar gyfer y technegau rydych chi wedi'u dewis
- gweithredu'r technegau y cytunwyd arnyn nhw gyda'r unigolyn perthnasol gan ddefnyddio dulliau diogel ac sydd wedi'u cymeradwyo
- defnyddio technegau steilio a gosod er mwyn cyflawni'r edrychiad a'r dyluniad y cawsoch chi eich cyfarwyddo i'w creu
- monitro a chynnal a chadw'r steil gwallt gofynnol drwy gydol y cynhyrchiad a gweithredu camau adfer lle bo'n briodol
- cynnal a chadw'r cyfarpar, yr offer a'r cynnyrch er dibenion diogelwch a hylendid
- cyfathrebu gyda lliw-wyr a steilwyr allanol lle bo angen er mwyn cyflawni'r technegau steilio, torri a lliwio cywir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion dylunio y bu i'r unigolyn perthnasol eu rhannu gyda chi
- cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran amser a'r gyllideb
- sut i gyflawni gwiriadau ar y croen
- pa weithrediadau i'w cyflawni pan gaiff y croen ei niweidio
- y ddeddfwriaeth, polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r dulliau a thechnegau torri, gosod, lliwio dros dro a thrin
- y dulliau ar gyfer torri, gosod, lliwio a thrin gwallt ar gyfer steilio a dilyniant yn ystod y cynhyrchiad
- sut i drin a defnyddio gwahanol gyfarpar a chynnyrch
- y gwahanol gynnyrch a'r technegau steilio a gorffen i gyflawni'r dyluniad gofynnol
- pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau ar sut i gynnal y steil gorffenedig drwy gydol y cynhyrchiad er dilyniant
- sut a phryd i newid eich dyluniad er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
- dulliau cynnal a chadw'r cyfarpar a'r cynnyrch yn lân ac yn ddiogel
- yr arbenigwyr y dylech chi gyfathrebu gyda nhw'n allanol ynghylch lliwio a steilio'r gwallt