Paratoi, gosod, tynnu a glanhau wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt i newid edrychiad y perfformiwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i weithredu amryw ddulliau a thechnegau i addasu edrychiad perfformwyr gyda wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt.
Bydd gofyn ichi sicrhau bod y detholiad o wigiau a darnau gwallt y byddwch chi'n eu defnyddio'n dwyn i ystyriaeth y canlynol:
- dyluniad
- croen y perfformwyr
- amserlen a chyllideb y cynhyrchiad
- effeithiau arfaethedig ar wigiau a darnau gwallt yn sgil yr amodau saethu
- y technegau torri gofynnol
- effaith nwyddau steilio a gorffen ar y wigiau a'r darnau gwallt
Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag egluro'r broses o osod a ffitio wigiau a darnau gwallt. Mae'n ymwneud â gosod wigiau a darnau gwallt i fodloni'r gofyniad dylunio a'r effaith ddymunol.
Mae'n ymwneud â sicrhau bod y wigiau a'r darnau gwallt yn lân ac yn sych.
Yn ogystal, mae'n ymdrin â defnyddio offer a chyfarpar i dorri, gosod ac addurno wigiau a darnau gwallt i gyflawni'r effaith ofynnol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ac mae gofyn ichi fod wedi cwblhau hyfforddiant a meddu ar brofiad mewn trin gwallt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gweithio yn unol â'r cyfarwyddyd dylunio a chydymffurfio gyda chyfyngiadau'r cynhyrchiad o ran yr amserlen a'r gyllideb
- gwirio croen y perfformwyr am unrhyw adweithiau niweidiol posib i ludion, tynwyr a gwallt wigiau
- gweithredu os ydy'r glud yn achosi unrhyw niwed i'r croen
- sicrhau eich bod yn dewis y wig neu'r darn gwallt priodol
- hysbysu'r perfformwyr o'r broses i osod wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- cadarnhau prydliw a lliw gwallt y perfformiwr fel sy'n briodol
- sicrhau bod y perfformwyr yn gyfforddus er mwyn gosod wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt gan darfu cyn lleied â phosib ar bobl eraill
- dewis y wigiau a'r darnau gwallt y byddwch yn eu defnyddio gan ddwyn i ystyriaeth croen y perfformwyr ac anghenion y cynhyrchiad
- ystyried y technegau gofynnol ac effaith torri, steilio a chynnyrch gorffennu ar wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- dewis y mathau o ddeunyddiau a gludion gwallt i osod wigiau a darnau gwallt wedi ichi ystyried yr adweithiau niweidiol i'r croen ynghyd â symudedd a sefydlogrwydd wigiau a darnau gwallt
- defnyddio'r dulliau, cyfarpar a'r deunyddiau cywir i lanhau, sychu, torri a gosod wigiau, lesys a darnau gwallt cyn eu trin
- blocio neu osod wigiau a darnau gwallt i fodloni'r gofynion dylunio a'r math o wigiau a darnau gwallt rydych yn eu defnyddio
- sicrhau eich bod yn tynnu'r wigiau a'r darnau gwallt gan gydymffurfio gyda'r canllawiau
- cofnodi'r holl wybodaeth angenrheidiol ynghylch y wigiau a'r darnau gwallt
- gosod yr estyniadau gwallt gan ddwyn i ystyriaeth y mathau o estyniadau gwallt rydych chi'n eu defnyddio a chyflwr math gwallt y perfformiwr
- tynnu estyniadau gwallt gan gydymffurfio gyda'r canllawiau
- cynnal a chadw'r cyfarpar a'r offer rydych chi'n eu defnyddio
- glanhau a chadw wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- cydymffurfio gyda'r polisïau a chanllawiau iechyd a diogelwch pan fyddwch yn gweithio gyda wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y cyfarwyddyd dylunio, gan gynnwys wyneb a siâp pen y perfformiwr
- y meini prawf i'w ystyried wrth ddewis wigiau a darnau gwallt
- sut i gynnal gwiriadau ar groen a sut i weithredu pan fo adwaith niweidiol i'r croen
- y cyfyngiadau amser a chyllidebol i'w dwyn i ystyriaeth wrth baratoi i ffitio wigiau a gwallt
- y broses ffitio'r wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- sut i fanteisio ar wybodaeth i gadarnhau prydliw a lliw gwallt y perfformiwr
- sut i gofnodi gwybodaeth wedi'i gaffael yn ystod ffitiad
- sut i gaffael a chyfathrebu gyda chyflenwyr wigiau a darnau gwallt
- y meini prawf i'w hystyried wrth ddewis deunyddiau gwallt a gludion
- symudedd a sefydlogrwydd gofynnol wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- sut i lanhau'r les a golchi'r wig, y darnau gwallt neu'r estyniadau gwallt
- y gwahaniaeth rhwng dulliau steilio a chynnal a chadw gwallt artiffisial a gwallt go iawn
- y technegau torri gwahanol sy'n ofynnol ar gyfer gwallt artiffisial a gwallt go iawn
- sut i flocio neu osod wigiau a darnau gwallt i fodloni'r gofynion dylunio
- sut i drin wigiau a darnau gwallt er mwyn bodloni'r gofynion dylunio
- sut i ddefnyddio popty wigiau
- lle a sut i gadw a glanhau wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt
- y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis estyniadau gwallt, gan gynnwys pwysau'r estyniadau a faint o wallt y perfformiwr fydd i'w weld
- sut fyddai defnyddio estyniadau gwallt yn effeithio ar gyflwr gwallt gwreiddiol y perfformiwr a sut byddai hyn yn effeithio ar y deunyddiau a'r dulliau rydych chi'n eu dewis
- y dulliau a'r technegau ar gyfer gosod estyniadau gwallt
- sut i dynnu estyniadau gwallt yn ddiogel ac yn ofalus
- sut i gynnal a chadw'r offer a'r cyfarpar
- y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i weithio gyda wigiau, darnau gwallt ac estyniadau gwallt