Ymchwilio syniadau i gyfrannu tuag at ddatblygu dyluniadau gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSHWMP1
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i archwilio elfennau creadigol y cysyniad dylunio.
Mae'n ymwneud ag ymchwilio cyfnod y stori, y genre ac unrhyw ofynion arbennig eraill gan gynnwys agweddau creadigol y dyluniad.
Mae angen canfod a allai llogwyr, gwneuthurwyr neu fasnachwyr gyflenwi'r cysyniad dylunio gan gadw at y gyllideb ac amserlen y cynhyrchiad.
Mae hefyd gofyn ichi ganfod a ydy'r staff a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch chi ar gael.
Mae'r safon yn berthnasol i sawl rôl ond mae'n fwyaf perthnasol i rôl dylunwyr neu artistiaid gwallt a cholur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu'r holl ffynonellau angenrheidiol i ymchwilio agweddau creadigol y dyluniad yn seiliedig ar gysyniad dylunio gwreiddiol y cynhyrchiad 2. casglu gwybodaeth am gyfnod a genre y cynhyrchiad sy'n gysylltiedig â'r gofynion dylunio er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch y dyluniad creadigol 3. annog y perfformwyr i egluro'u syniadau am y cymeriad a sut byddan nhw'n perfformio'r cymeriad 4. cyfuno'r ymchwil i gynhyrchu'r dyluniad terfynol gan wirio bod hyn yn bodloni'r syniad dylunio gwreiddiol y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr 5. sicrhau y caiff y gofynion dylunio eu rhannu gyda'r tîm ac unrhyw gyflenwyr allanol 6. sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i'r dyluniad gwreiddiol eu cytuno gyda'r cyfarwyddwr, pan gaiff y rhain eu cyfiawnhau gan ganlyniadau'r ymchwil 7. asesu a ydy'r cyfleusterau ar gyfer gwallt a/neu golur yn ddigonol, bod digonedd ohonyn nhw a’u bod nhw o'r ansawdd priodol i gyflawni'r cysyniad dylunio ynghyd â gwneud argymhellion ar gyfer addasiadau fel sy'n briodol 8. pennu'r gofynion gwallt, wigiau, colur a phrostheteg arbennig ac angenrheidiol ar gyfer effeithiau 9. canfod ffynonellau cyflenwi amgen pan nad yw‘r cyflenwyr yn gallu bodloni’ch gofynion 10. rheoli diffygion o ran niferoedd ac ansawdd yr adnoddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cysyniad dylunio gwreiddiol y cynhyrchiad
- cyfyngiadau'r cynhyrchiad o ran amser a'r gyllideb
- graddfa, math ac arddull weledol y cynhyrchiad
- cyfnod amser a genre y cynhyrchiad ynghyd â goblygiadau hyn ar gyfer y dyluniad
- sut i ddehongli'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu a'i hymchwilio i fodloni'r syniad dylunio gwreiddiol y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr
- sut i egluro'r cyfarwyddyd dylunio i'r tîm a chwmnïau allanol
- dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
- y cyflenwyr posibl a’r cwmnïau arbenigol y gallwch fanteisio arnyn nhw
- sut i sicrhau bod staff digonol gyda'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r cysyniad dylunio
- a oes angen gofynion ac effeithiau arbennig o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg
- sut i weithredu pan fo diffygion o ran nifer ac ansawdd y deunyddiau, staff neu'r cyfleusterau
- sut i leihau gwastraff
- y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer y cynhyrchiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSHM2
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
ymchwil, gwallt, wigiau, prostheteg, colur, dylunio, cysyniad dylunio, arddull weledol, iechyd a diogelwch