Cefnogi a rheoli cydweithwyr iau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSGS9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â hwyluso a rheoli gwaith cydweithwyr iau o fewn eich maes gwaith chi. Gall cydweithwyr iau fod yn fyfyrwyr profiad gwaith, gweithwyr dan hyfforddiant neu gynorthwywyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio cynllun gwaith gyda chydweithwyr iau a fydd yn fodd iddyn nhw gyflawni'r gwaith dymunol
- gofalu bod y cynllun gwaith yn dwyn i ystyriaeth gofynion a chwmpas eich swyddogaeth chi, graddau eich awdurdod, yr adnoddau sydd ar gael a'r cyfyngiadau amser ynghlwm â'r gwaith
- gofalu bod cydweithwyr iau yn deall gofynion y cyfarwyddyd, y cynllun gwaith a'r amserlen
- trafod dyletswydd a chyfrifoldebau'r cydweithwyr iau gyda nhw mewn ffordd sy'n hyrwyddo perthnasau gweithio effeithiol ac yn eu hannog i ddysgu
- gofalu bod cydweithwyr iau yn ymwybodol o sut i ddefnyddio'r cyfarpar a deunyddiau angenrheidiol
- annog cydweithwyr iau i ofyn cwestiynau er mwyn derbyn eglurhad o unrhyw agweddau nad ydyn nhw'n eu deall yn gyfan gwbl
- cynnig cyfle i gydweithwyr iau i gyfrannu a rhoi cynnig ar y gwaith eu hunain
- monitro gwaith y cydweithwyr iau a dangos sut gallan nhw fynd i'r afael â phroblemau dichonol yn ymwneud â'r gwaith
- canfod datrysiadau ymarferol ar gyfer unrhyw broblemau yn ymwneud á pherfformiad cydweithwyr iau gall gael effaith niweidiol ar ansawdd neu amserlen y gwaith
- gofalu bod cydweithwyr iau yn cydymffurfio gyda gofynion iechyd a diogelwch perthnasol bob amser
- cynnig adborth unigol i gydweithwyr iau ynghylch eu gwaith a'u hannog i wella'u perfformiad yn y dyfodol
- gwerthuso'ch perfformiad eich hun wrth reoli cydweithwyr iau
- gofalu eich bod yn cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prosesau a gweithdrefnau i'w rhoi ar waith wrth reoli cydweithwyr iau yn y mudiad rydych yn gweithio ynddo
- deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy'n berthnasol i reoli pobl eraill a'r gwaith gaiff ei gyflawni
- pwy ddylai gyfrannu at gynllunio gwaith cydweithwyr iau
- sut i ganfod pwy sydd angen gwybod am unrhyw broblemau yn ymwneud â rheoli cydweithwyr iau a chynnydd y gwaith maen nhw'n ei gyflawni
- pwy all gynnig adborth ar eich perfformiad eich hun yn rheoli cydweithwyr iau
- dulliau i fonitro cydweithwyr iau sy'n effeithiol, anymwthiol a gwrthrychol
- sut i gynnig adborth adeiladol i gydweithwyr iau
- sut i annog eraill i ddatblygu eu sgiliau a rhagori yn eu gyrfaoedd
- ffynonellau cefnogaeth ariannol allanol neu hyfforddiant gall fod ar gael i gydweithwyr iau
- sut i werthuso adborth yn wrthrychol yn ymwneud â'ch perfformiad eich hun
- sut i gadw gwybodaeth sensitif yn unol â gofynion cyfundrefnol a gofynion diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGW6
Galwedigaethau Perthnasol
Ffotograffydd, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau, Golygydd
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Cydweithiwr, Rheoli, Iau, Gweithiwr Dan Hyfforddiant