Rheoli gwaith timau yn y diwydiannau creadigol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith eich tîm ac ystyried sut mae modd gwella perfformiad eich tîm.
Mae'n ymwneud â gofalu bod eich tîm yn cydymffurfio gyda gofynion y cyfarwyddyd. Hefyd, pan na fydd eich tîm yn cydymffurfio gyda'r gofynion hyn, mae'r safon yn ymwneud ag ymchwilio'r rhesymau dros hyn drwy gyfathrebu gydag aelodau priodol o'ch tîm.
Mae'r safon hefyd yn ymwneud ag ystyried ffyrdd o wella ansawdd y gwaith a dulliau gweithio a thrafod hyn gyda'ch tîm ac unigolion eich tîm mewn dull cadarnhaol. Mae gofyn ichi gydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gwaith perthnasol wrth ichi reoli eich tîm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
rhoi gwybod i'ch tîm am gwmpas eu cyfrifoldebau swydd mewn ffordd sy'n hyrwyddo perthnasau gweithio effeithiol
rhoi gwybod i'ch tîm y byddwch yn monitro eu perfformiad yn y gwaith
- gofalu eich bod yn cynnal asesiadau risg ynghylch gwaith eich tîm a bod eich tîm yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol wrth weithio
- datblygu cynllun gwaith yn ymwneud â chi a'ch tîm
- gofalu bod holl aelodau'ch tîm yn ymwybodol o'r gweithgareddau penodol maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw
- cynnig cyfleoedd i unigolion i gyfrannu o ystyried eu datblygiad personol eu hun
- cynnig cyngor ac arweiniad ar adegau sy'n briodol i anghenion y cyfarwyddyd a'r unigolyn
- gofalu bod eich tîm yn ymwybodol o'r weithdrefn yn ymwneud â mynd i'r afael â phroblemau a phwy ddylech chi eu hysbysu am broblemau o'r fath
- lle nad ydy aelod(au) o'ch tîm yn bodloni gofynion y cyfarwyddyd, bydd angen ichi drafod hyn gydag aelod eich tîm i ganfod y rheswm dros hyn
- gwerthuso'r rhesymau gan aelod eich tîm ac ystyried sut ddylech chi weithredu er mwyn cynorthwyo gyda chyflawni'r cyfarwyddyd a bod yr unigolyn yn cyflawni
- cynnig adborth i'ch tîm cyfan ynghylch y cynhyrchiad cyffredinol a'i gynnydd
- ymgynghori gyda'ch tîm ar awgrymiadau i wella perfformiad yn y dyfodol
- canfod cyfleoedd i wella cynhyrchiant a llif gwybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sgiliau eich tîm a'u cwmpas o ran cyfrifoldebau swydd
- sut i rannu gofynion y cyfarwyddyd ac arddull creadigol gyda'ch tîm a chadarnhau eu bod yn deall
- sut i ddatblygu cynllun gwaith sy'n cynnig manylion eglur o ddyletswyddau a chyfrifoldebau
pwysigrwydd cynnig cyfle i unigolion gyfrannu ac ysbrydoli eu datblygiad personol
y person sy'n gyfrifol am gynnal asesiadau risg ac eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch o ran pobl eraill
- pwysigrwydd rhoi gwybod i'ch tîm y byddwch chi'n monitro eu perfformiad, beth fyddwch chi'n chwilio amdanyn nhw a sut gallan nhw dderbyn adborth
- gweithredu priodol yn sgil perfformiad anfoddhaol gan aelod o'r tîm
- deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy'n berthnasol i reoli pobl eraill a'r gwaith gaiff ei gyflawni