Rheoli prosiectau yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS7
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â datblygu a chytuno ar lif gwaith ynghyd â monitro a rheoli’r gwaith hwnnw i ofalu caiff gwaith creadigol dymunol o safon briodol ei gyflawni gan ofalu eich bod yn cydymffurfio gyda chyfyngiadau o ran y gyllideb ac adnoddau. Mae’n ymwneud â blaenoriaethu gweithgareddau, arwain eraill, cynlluniau mewn argyfwng ac ymateb i newidiadau. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod disgwyliadau o ran ansawdd ar gyfer gwaith creadigol ac unrhyw ofynion ynghylch sut dylid eu cyflawni
  2. adnabod cyllidebau sydd ar gael, graddfeydd amser a chyfyngiadau o ran adnoddau
  3. datrys unrhyw bwyntiau i'w egluro ac amwyseddau yn deillio o'r wybodaeth a'i ddehongliad
  4. cynnig amcangyfrifon realistig o ran cyfarpar, deunyddiau a phobl angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion creadigol a thechnegol y prosiect
  5. adnabod cerrig milltir allweddol a chynllunio sut byddwch yn eu cyflawni
  6. dod o hyd i bobl sy'n meddu ar y sgiliau priodol i gyflawni'r gwaith
  7. cynnig gwybodaeth gywir a chryno am gynlluniau i'r bobl ynghlwm yn brydlon er mwyn iddyn nhw fedru dylanwadu ar gynlluniau, lle'n briodol, a gweithredu'n brioodol   
  8. sefydlu trefniadau ar gyfer cyfathrebu effeithiol rhwng pawb ynghlwm
  9. cytuno ar drefniadau er mwyn mynd i'r afael gyda chynlluniau mewn argyfwng gyda'r rheiny ynghlwm
  10. defnyddio gwybodaeth gywir, gyfredol a dibynadwy i gymharu cynnydd gyda chynlluniau ac amserlenni
  11. monitro gweithgareddau a chynnydd yn ddigonol er mwyn eich galluogi i adnabod gwyriadau
  12. defnyddio dulliau priodol i roi gwybod am newidiadau i gynlluniau sydd wedi'u cytuno eisoes i'r holl bobl berthnasol
  13. awgrymu a chytuno ar ddatrysiadau ymarferol, pan fo gwyriadau sylweddol o'r amserlen a chynlluniau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ganfod mwy am ofynion gan gynnwys newidiadau i gynlluniau blaenorol  
  2. dulliau gweithredu o ran sicrwydd ansawdd a beth sydd ei angen ar gyfer cynhyrchu
  3. dyletswyddau a chyfrifoldebau y bobl ynghlwm a phwy sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau  
  4. sut gall llif gwaith helpu pobl i ddeall cyd-ddibyniaeth rhwng gwahanol weithgareddau a gwella ansawdd dialog cynnar
  5. y wybodaeth ofynnol gan wahanol bobl yn ystod pob cam
  6. y cyfarpar angenrheidiol ac unrhyw ofynion penodol yn ymwneud â nhw
  7. meini prawf a dulliau ar gyfer asesu nifer a manylion deunyddiau yn gywir ac yn gynhwysfawr
  8. ffyrdd o werthuso perfformiad deunyddiau
  9. sut a phryd i adnabod sgiliau, cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol a lle i'w canfod
  10. gofynion yn ôl cytundebau ac yswiriant a'r prosesau priodol er mwyn eu cyflawni 
  11. ffynonellau gwybodaeth ynghylch cynnydd a sut i fonitro a gwirio gweithgareddau a chynnydd
  12. ffyrdd o gytuno ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau
  13. sut i adnabod gwyriadau gwirioneddol a dichonol oddi wrth amserlenni a chynlluniau
  14. pryd i gymryd yr awenau gan eraill
  15. sut i ddewis y ffordd orau i gyfathrebu gyda'r bobl ynghlwm
  16. pa wybodaeth sydd ei angen gan bwy a phryd mae ei hangen arnyn nhw
  17. y mathau o argyfyngau gall ymddangos a ffyrdd o fynd i'r afael gyda nhw
  18. sut i adnabod a gwerthuso'r buddion ac anfanteision ynghlwm â gwahanol ffyrdd o leihau costau neu arbed amser
  19. achosion cyffredin am oedi a sut mae modd osgoi neu fynd i'r afael â rhain
  20. prosesau a ffurfiau disgwyliedig ar gyfer cyflwyno gwybodaeth a'u rhyngwyneb gyda cheisiadau sy'n cyd-fynd â safon y diwydiant
  21. deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â gwaith, iechyd a diogelwch, hawliau eiddo deallusol ac ildiadau a hawliau moesol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGW4

Galwedigaethau Perthnasol

Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Prosiect, Creadigol, Cynlluniau, Amserlenni