Caffael gwasanaethau neu gyflenwyr allanol yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSGS6
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â dewis cyflenwyr ar gyfer gwasanaethau neu nwyddau allanol, trafod telerau a rheoli gwasanaethau neu nwyddau wedi’u darparu gan gyflenwyr allanol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sicrhau bod y cyfarwyddyd neu'r meini prawf ar gyfer y gwaith i'w gaffael yn gywir ac yn realistig ac wedi'i gytuno gan y bobl briodol
sicrhau y caiff cyflenwyr dichonol eu cyfarwyddo'n ddigonol ynghylch gofynion a chyfyngiadau
- dewis y cyflenwyr mwyaf priodol i fodloni gofynion gan ddehongli gwybodaeth yn ddilys, teg a realistig
- gofalu bod gwasanaethau neu nwyddau cyfredol neu i'r dyfodol yn bodloni eich gofynion
- gofalu bod modd cyfiawnhau eich penderfyniadau o ran caffael a'u bod yn cydymffurfio gyda phrotocolau cyfundrefnol
- dod i gytundeb gyda chyflenwyr o ran beth fyddan nhw'n ei ddanfon a'r telerau ynghlwm
- ffurfioli eich disgwyliadau yn ymwneud â chytundebau gyda chymal terfynu os yn briodol
- gofalu bod yna ffyrdd priodol o gyfathrebu rhwng eich mudiadau a chyflenwyr
- cadarnhau gyda chyflenwyr sut byddwch chi'n gwirio bod eu perfformiad yn bodloni'r gofynion
- adnabod a chofnodi’r rhesymau am unrhyw fethiannau i fodloni gofynion
- cytuno ar unrhyw newidiadau gyda chyflenwyr a'u hysbysu o'r goblygiadau
- trefnu bod taliadau wedi'u cyflwyno'n brydlon yn unol â graddfeydd amser a pherfformiad cytunedig a chofnodi'r rhesymau dros unrhyw daliad sy'n wahanol i'r cytundeb gwreiddiol
- datrys unrhyw fethiannau, cofnodi sut gawson nhw eu datrys a gweithredu i'w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol, gan geisio am gyngor cyfreithiol pan fo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfarwyddyd, meini prawf, cyllideb ac amserlen ar gyfer y gwaith
- y protocolau a gweithdrefnau cyfundrefnol wrth gaffael gwasanaethau neu nwyddau allanol
- camau allweddol y broses dendro a sut i'w rheoli fel bod digon o amser ar gyfer pob cam
- sut i leihau'r amhariadau posib i fusnes cleientiaid ac asiantau yn sgil caffael
- sut i ddiffinio meini prawf sgorio ar gyfer dewis cyflenwyr
- sut mae modd dadansoddi amcangyfrifon a thendrau er mwyn gallu eu cymharu
- paramedrau ar gyfer newidion allweddol, goddefiadau dichonol neu gyfaddawdau y mae modd eu trafod wrth gaffael gwasanaethau neu nwyddau
- sut caiff cytundebau eu strwythuro a sut caiff taliadau eu cyflwyno
- safonau perfformiad o ran cynnig gwasanaeth neu gyflenwi
- prosesau newid rheolaeth dderbyniol a sut i'w diffinio
- sut i fanteisio ar gyngor ynghylch derbyn iawndal am berfformiad anfoddhaol gan gynnwys mynd i gyfraith
y systemau ar gyfer cofnodi newidion yn ymwneud â pherfformiad a gweithrediadau cywirol cytunedig
y gofynion cyfreithiol yn ymwneud â chydweithio gyda chyflenwyr
- cynllunio ar gyfer argyfwng yn ymwneud â'r gwaith wedi'i gaffael
- pwysigrwydd yswiriant atebolrwydd a phryd mae'n berthnasol
- dulliau cyfathrebu priodol
- barn cleientiaid ynghylch cyflenwyr maen nhw wedi cydweithio gyda nhw yn y gorffennol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS6
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfryngau a chyfathrebu
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Caffael, Cyflenwyr, Methiannau, Cyfathrebu