Rheoli cyllidebau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSGS5
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â monitro’r gyllideb yn erbyn cynllun. Mae’n ymdrin ag asesu goblygiadau unrhyw ad-drefnu neu ail-ddosbarthu’r gyllideb a gofalu caiff y bobl berthnasol eu hysbysu o’r newidiadau. Mae’n bosib y bydd y gyllidebau yn rhai mewnol neu allanol i’r mudiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro a rheoli cyllidebau er mwyn gofalu caiff adnoddau eu defnyddio yn unol â'r cynlluniau wedi'u cytuno o ran y gyllideb
- gofalu bod manylion llawn gweinyddu, rheoli a gwario'r gyllideb ar gael i'r bobl briodol
- adnabod a chofnodi problemau ac amgylchiadau dichonol gall effeithio ar gynlluniau'r gyllideb
- adnabod ac ystyried adnoddau ychwanegol gall fod yn ofynnol o bosib a'u goblygiadau o ran y gyllidebau
- adnabod achosion unrhyw anghydfodau sylweddol rhwng beth gafodd ei gyllidebu a'r gwir sefyllfa gan ofalu eich bod yn mynd ati'n brydlon i ddatrys y sefyllfa i
- cynnig adolygiadau i'r gyllideb, os yn briodol, i ymateb i unrhyw anghydfodau a/neu ddatblygiadau sylweddol neu annisgwyl
- gofalu bod y bobl berthnasol yn cytuno gyda newidiadau i gyfrannau arfaethedig cyllidebau
- defnyddio gwybodaeth o'r gweithrediadau monitro a rheoli cyllidebau er mwyn cynorthwyo gyda pharatoi cyllidebau yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amcanion creadigol y gwaith a sut maen nhw'n effeithio ar amcanion busnes
- y gyllideb wedi'i gytuno, sut gaiff ei neilltuo er mwyn talu am y gwahanol weithgareddau a gofynion adnoddau. Hefyd faint yn union gall ei newid heb gymeradwyaeth
- y berthynas rhwng y gyllideb a'r amserlen
- sut i ddefnyddio cyllideb i fonitro a rheoli perfformiad yn weithredol
- sut i gynnig cyfarwyddiadau a graddfeydd amser eglur pan fo gofyn i eraill gyflawni tasgau yn berthnasol i reoli cyllidebau
- y prif resymau dros anghydfodau a sut i'w hadnabod
- y gwahanol fathau o weithrediadau cywiro gallwch eu cyflawni er mwyn mynd i'r afael ag anghydfodau wedi'u hadnabod
- sut gall ddatblygiadau annisgwyl effeithio ar gyllideb a sut i fynd i'r afael gyda nhw
- pwy i hysbysu ynghylch amgylchiadau gall effeithio ar gyllidebau
- sut i drafod, cytuno a chofnodi newidiadau i gyllidebau
- pwy sy'n gyfrifol am gytuno ar adolygiadau i gyllidebau
- pwy sydd angen ichi eu hysbysu am berfformiad yn ymwneud â'r gyllideb a newidiadau i'r gyllideb
- pwysigrwydd defnyddio cyflwyno'r gyllideb i adnabod gwybodaeth a gwersi ar gyfer paratoi cyllidebau yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGW2
Galwedigaethau Perthnasol
Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Cyllidebau, Monitro, Rheoli