Datblygu cyllidebau yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS4
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â datblygu cynlluniau cyllidebau yn y diwydiannau creadigol sy’n caniatáu cyflawni gwaith o’r safon briodol gan ddwyn i ystyriaeth cost-effeithioldeb. Mae’n gofyn ichi amcangyfrif neu ymchwilio costau, trafod cyllidebau fel eu bod yn ddigonol ar gyfer y gwaith a chytuno ar unrhyw gyllidebau neu is-gyllidebau angenrheidiol. Mae’n bosib y bydd y cyllidebau yn rhai mewnol neu allanol i’r mudiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau amcanion, cwmpas, graddfeydd amser, ac os yn briodol, cyllideb gyflawn y busnes
  2. cadarnhau'r amcanion artistig ac unrhyw ofynion arbennig fydd yn effeithio ar y broses
  3. penderfynu ar y gofynion mwyaf priodol o ran deunyddiau, technoleg, allffynonellu, cyflwyno a phersonél a'u costau tebygol a fydd yn bodloni anghenion cyffredinol y prosiect
  4. os yn berthnasol, penderfynu ar faint y gyllideb sydd ar gael ac egluro oes yna unrhyw gyllid wedi'i neilltuo eisoes
  5. adnabod a chofnodi lwfans ar gyfer argyfyngau er mwyn mynd i'r afael â phroblemau dichonol a allai effeithio ar y cylllideb
  6. cynnig cynrychioliadau gweledol i eraill er mwyn egluro graddfa a'r math o deunyddiau sydd eu hangen

  7. dehongli goblygiadau manylion y prosiect a pharamedrau creadigol o ran cyllidebau

  8. efnyddio gwybodaeth gywir i gyfrifo cyllidebau realistig a chost-effeithiol
  9. cyflwyno cyllidebau i bobl berthnasol er mwyn eu cytuno o bosib
  10. trafod a chynnig dadleuon strwythuredig os oes angen, er mwyn cefnogi maint a rhaniadau cyllidebau arfaethedig
  11. cytuno ar gyllideb derfynol a fydd yn bodloni amcanion a manyleb y prosiect
  12. cofnodi holl gytundebau a gofalu fod holl bartïon yn cadarnhau eu bod yn cymeradwyo'r cytundeb 
  13. gofalu fod y manylion o ran maint y gyllideb a'r rhaniadau arfaethedig ar gael i bobl sydd angen y wybodaeth hynny
  14. cadarnhau fod yna ddigon o arian mân a bod trefniadau mewn lle i'w gadw yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau yswiriant
  15. cadarnhau fod yna ddyraniadau cyllid digonol i dalu gwahaniaethau mewn cyfraddau cyfnewid, os oes angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. manylion y prosiect cyflawn, ei amcanion a'i raddfeydd amser
  2. lle i ddod o hyd i wybodaeth am gyllidebau cyffredinol a chyfrannau blaenorol
  3. yr amcanion creadigol a sut maen nhw'n effeithio ar amcanion busnes
  4. goblygiadau amser a gwaith penodol ar gyfer holl fewnbwn creadigol priodol
  5. pwy i ymgynghori gyda nhw i dderbyn gwybodaeth gywir am gostau tebygol, yn fewnol, gyda mudiadau partner ac yn allanol i'r mudiad
  6. y perthynas rhwng y gyllideb a'r amserlen
  7. ffyrdd o ofalu bod eraill yn deall graddfa a'r math o gyfleusterau angenrheidiol
  8. y costau safonol cyfredol ar gyfer cyfleusterau
  9. beth sy'n golygu hunan-gyflogedig neu gyflogaeth ar gyfer criw a'r effaith ar y gyllideb
  10. sut i adnabod opsiynau sy'n cynnig y gwerth am arian gorau
  11. y mathau o argyfyngau gall ymddangos a sut i'w dwyn i ystyriaeth wrth amcan costau
  12. sut i adnabod gofynion arian mân gydag yswirwyr
  13. sut i gyfrifo cyllideb yn gywir
  14. sut i gyfrifo cyfraddau cyfnewid
  15. penawdau cyllidebol dylech chi eu defnyddio  
  16. sut i gyflwyno cyllidebau i eraill
  17. sut i drafod a chynnig dadleuon strwythuredig er mwyn cefnogi maint a chyfrannau arfaethedig eich cyllidebau
  18. gweithdrefnau ar gyfer cofnodi cyllidebau wedi'u cytuno
  19. pwy sy'n meddu ar yr hawl i fwrw golwg ar wybodaeth gyllidebol a phwy sydd angen bod ynghlwm wrth gytuno ar gyllidebau gwreiddiol a diwygiedig
  20. pa becyn cyllidebol a rheolaeth ariannol i'w ddewis a sut i'w ddefnyddio

pryd
mae’n briodol ichi geisio am gyngor ariannol a sut i fanteisio arno


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGW1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyllideb, Trin a thrafod, Prosiect, Costau