Manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gynyddu eich sgiliau ac ennill profiad yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS2
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae’r Safon hon yn ymwneud â manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael ichi. Mae’n ymwneud â dysgu’r technegau a dulliau gweithio ynghyd â dysgu amdanoch ei hun. Mae’n fodd ichi ddysgu am y sgiliau hoffech chi eu datblygu a’r swydd yr hoffech chi ei chyflawni yn y pendraw.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydnabod cyfleoedd i ddatblygu eich ymarfer
  2. adnabod y prosesau a'r tasgau a gaiff eu cyflawni, eu trefn a'r wybodaeth angenrheidiol er mwyn eu cyflawni'n effeithiol
  3. dangos i eraill eich bod yn meddu ar agwedd gadarnhaol tuag at waith, eich bod yn berson dymunol i weithio gydag ef/gyda hi ac eich bod yn meddu ar ddiddordeb hirdymor yn y maes maen nhw'n gweithio ynddo
  4. datblygu perthnasau gyda chydweithwyr profiadol sy'n fodd ichi ddysgu ganddyn nhw  
  5. manteisio i'r eithaf ar adnoddau eraill i ddysgu am feddalwedd, offer a thechnegau
  6. gofyn cwestiynau er mwyn datblygu eich dealltwriaeth
  7. gofyn am help pan fyddwch yn ansicr ynghylch sut i gyflawni tasg neu beth sydd ei angen ichi ei wneud
  8. canfod pwy all gynnig cefnogaeth a chyngor dibynadwy er mwyn ichi fedru datblygu dealltwriaeth yn gyflym ac yn drylwyr
  9. mynd ati i ddysgu am y gwaith a chynorthwyo gyda thasgau
  10. darganfod mwy am brotocolau, safonau, arferion ac unrhyw adrannau neu brosesau eraill ynghlwm a sut mae pobl eraill ynghlwm yn cyflawni eu gwaith
  11. canfod cyfleoedd i gynnig barnau beirniadol am ansawdd gwaith
  12. adnabod y math(au) o swydd(i) hoffech chi eu cyflawni ac a fyddai o bosib yn gweddu ichi
  13. adnabod y cam nesaf er mwyn datblygu eich gyrfa
  14. gwirio eich bwriadau gyda chydweithwyr i weld a ydyn nhw'n realistig a dichonadwy gan ystyried eu gwybodaeth amdanoch chi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwysigrwydd datblygu eich sgiliau a sut gallai effeithio ar eich gyrfa
  2. sut i wirio bod eich disgwyliadau o ran eich gyrfa ac addysg yn realistig a bod modd eu cyflawni
  3. sut i ddangos i eraill eich bod yn deall y pwysau a'r cyfrifoldebau ynghlwm â gwaith ac yn medru dysgu
  4. sut a phryd i ofyn cwestiynau am bethau nad ydych chi'n eu deall ar hyn o bryd
  5. eich dull dysgu eich hun
  6. sut i asesu ansawdd gwaith i safonau artistig disgwyliedig
  7. cynllun y gweithle a sut caiff gwahanol leoliadau a chyfleusterau eu cyfeirio atyn nhw  
  8. y bobl ynghlwm, eu henwau a'u swyddogaethau  
  9. pobl sy'n ddibynadwy a ffynonellau gwybodaeth agored
  10. ffynonellau gwybodaeth eraill angenrheidiol er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd
  11. y cwmpas gaiff ei ganiatáu ichi er mwyn defnyddio cyfarpar a chynorthwyo gyda thasgau
  12. gwaith gallwch chi wirfoddoli i'w gyflawni
  13. ffactorau iechyd a diogelwch yr holl gyfarpar a'r gweithle

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS2

Galwedigaethau Perthnasol

Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu, Cydgysylltydd Ol-gynhyrchu, Cynorthwyydd Cynhyrchu

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Datblygu, Creadigol, Adborth, Technegau