Cynnig cyfeiriad creadigol a strategol ar gyfer prosiectau’r diwydiant creadigol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ddeall a rhagnodi gofynion creadigol a masnachol lefel uchel a/neu ddiben y cynnyrch.
I gyflawni hyn, byddwch yn trafod gyda'r cleient neu noddwyr eraill y prosiect. Mae angen ichi lunio syniadau syniadol, fel arfer wrth ymgynghori gydag eraill gan gyfuno meddwl creadigol a rhesymegol.
Bydd angen ichi gyflwyno dogfennau ysgrifenedig neu ar ffurf lluniau, goruchwylio timau prosiect ac arbenigwyr a gofalu caiff amcanion busnes y prosiect a gweledigaeth greadigol eu deall a'u cynnal a chadw. Bydd angen ichi gyfuno disgyblaethau arbenigedd mewn busnes, rheoli, cynnwys, dylunio a thechnoleg. Mae'r gweithrediad hwn yn debyg i reoli prosiect 'pur' ond mae'n canolbwyntio ar ofynion creadigol y prosiect yn hytrach na mecaneg cynnal y prosiect. Fodd bynnag, caiff y ddau weithrediad eu cyfuno yn aml yn ymarferol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod a rhagnodi paramedrau dylunio, technegol a masnachol perthnasol
- meddwl am ddatrysiadau i fodloni gofynion o fewn paramedrau dylunio perthnasol
- dewis y technolegau a dulliau mwyaf priodol er mwyn cyflawni'r gwaith
- egluro gofynion y gwaith mewn ffordd eglur a chryno
- trafod gyda rheolwyr prosiect a staff rheoli strategol, creadigol a thechnegol er mwyn gofalu bod y gofynion yn eglur ac mae modd eu rhoi ar waith yn effeithiol
- trafod gyda noddwyr prosiect allanol a/neu fewnol er mwyn cadarnhau eu gofynion a disgwyliadau
- trafod gyda'r cleient er mwyn derbyn cymeradwyaeth am y gwaith
- gwerthuso a chynnig adborth adeiladol ar waith creadigol a thechnegol wedi'i gyflawni gan eraill
- argymell newidiadau diichonol o ran dyluniad pan fo'n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr adnoddau a graddfeydd amser gofynnol er mwyn cyflawni'r gwaith
- y gwahanol sgiliau arbenigol mae'n debyg fydd yn ofynnol ar gyfer prosiect penodol
- anghenion a disgwyliadau staff dylunio a chynhyrchu eich mudiad
- natur busnes y cleient a'r cyd-destun gofynnol o ran y cynnyrch
- sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r wahanol bobl sydd ynghlwm â'r gwaith datblygu
- sut i werthuso gwaith creadigol a thechnegol er mwyn gofalu ei fod yn addas i'r diben ac yn bodloni'r gofynion
- sut i gysoni gofynion cleientiaid, defnyddwyr a masnachwyr
- y gwahanol dechnolegau, llwyfannau, gwasanaethau ar-lein, offer, ffurfiau a dulliau creadigol neu dechnegol sydd ar gael a'u manteision, anfanteision a goblygiadau
- sut i adnabod pa dechnolegau, offer a dulliau creadigol neu dechnegol a fyddai'n fwyaf priodol i'w defnyddio
- sut i gyflwyno gwaith i'w gymeradwyo, rheoli ceisiadau am newidiadau a derbyn cymeradwyaeth terfynol
- tueddiadau cyfredol a disgwyliedig o ran y dyluniad, cysyniadau a thechnoleg ar gyfer y diwydiant
- yr angen i ddwyn i ystyriaeth darpariaeth aml-sianel ac effaith tebygol hyn ar y dyluniad a'r datblygiad
- pwysigrwydd rheolaeth prosiect cadarn, gan gynnwys yr angen i dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer un cyfnod allweddol cyn mynd rhagddi gyda'r cyfnod nesaf
- pwysigrwydd cyfarwyddyd creadigol cryf a chyfrifoldebau atebolrwydd amlwg yn y tîm
- trosolwg o brosesau rheoli prosiect a methodolegau fel y fethodoleg rhaeadr a methodoleg chwim