Cytuno ar ofynion a pharamedrau ynghylch gweithgareddau dylunio yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSGS16
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â chaffael, dadansoddi a dehongli'r cyfarwyddyd creadigol a gwybodaeth berthnasol er mwyn adnabod y fframwaith cyffredinol, gofynion a pharamedrau ar gyfer eich gwaith a gofalu bod yr arddull ac effaith yn briodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau a dadansoddi gwybodaeth ar ofynion a pharamedrau, gan gynnwys unrhyw ofynion, ffactorau a chyfleoedd arbennig a fydd yn effeithio ar natur a gweithrediad yr allbynnau creadigol
egluro a chadarnhau gwybodaeth amhendant, amwys neu goll ar ofynion a pharamedrau
- pennu gofynion ar gyfer cysondeb
- egluro a chadarnhau arddull gweledol a'r effaith arfaethedig gyda gwneuthurwyr penderfyniadau priodol
- adnabod nodweddion dymunol o wybodaeth a manylion perthnasol
- manteisio ar gyngor arbenigol pan gaiff problemau penodol eu hadnabod sydd y tu hwnt i'ch arbenigedd personol chi
- adnabod ac asesu allbynnau creadigol, datrysiadau technegol neu dechnegau blaenorol wnaeth lwyddo mewn amgylchiadau tebyg yn ôl eu perthnasedd
- datblygu athroniaeth a manyleb sy'n diwallu anghenion y prosiect
- gofalu bod modd cyflawni'r gwaith o fewn cyfyngiadau cost ac amser y prosiect
- cydnabod a chadarnhau unrhyw newidiadau wedi'u ceisio gan y gwneuthurwyr penderfyniadau yn eglur a'u cynnwys mewn manylebau gofynion
- adnabod cyfleoedd pellach i ddefnyddio allbynnau creadigol pan fo'n briodol er mwyn gwella'r llwyddiannau creadigol a masnachol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- amcanion yr allbwn creadigol a'r dibenion artistig y bydd gofyn iddo'i gefnogi
- sut i fanteisio ar, dadansoddi a dehongli'r cyfarwyddyd creadigol a gwybodaeth berthnasol
- pwy ydy'r gwneuthurwyr penderfyniadau a sut i egluro gofynion, arddull gweledol a pharamedrau gyda nhw
- sut i addasu gofynion pan fo newidiadau gofynnol gan wneuthurwyr penderfyniadau a'r gweithredoedd priodol pan nad oes modd bodloni'r cais am newid
- sut mae ffactorau a chyfleoedd yn amrywio i weddu i wahanol gynyrchiadau
- sut i adnabod effaith gofynion y cynhyrchiad, paramedrau a chynllunio, paramedrau a chynlluniau ar ddatblygiad allbynnau creadigol
- ffynonellau gwybodaeth ar allbynnau creadigol a datrysiadau technegol presennol
- medrau a chyfyngiadau technoleg arfaethedig a thechnegau sydd ar gael
- sut i werthuso allbynnau creadigol a datrysiadau technegol presennol ynghyd â datrysiadau syniadol arfaethedig o ran perthnasedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGC2
Galwedigaethau Perthnasol
Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Gweithgaredd, Paramedrau, Amcanion, Cyfarwyddyd