Trefnu, cadw ac adfer asedau, data a gwybodaeth yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS15
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu i brosesu, trefnu ac adfer asedau a gwybodaeth rydych yn eu defnyddio fel rhan o brosiectau cyfryngau creadigol ynghyd â chadw'r asedau a gwybodaeth yn ddiogel. Mae'n bosib y bydd angen yr asedau a'r wybodaeth ar gyfer y prosiect cyfredol neu wedi'i archifo o brosiectau blaenorol.

Gall yr asedau olygu asedau materol fel goleuadau, rhaffau ac offer camera, teclynnau a deunyddiau, propiau, setiau, model cymeriad ffram-wrth-ffram, darluniau gwreiddiol, allbrintiadau, gyriannau caled allanol neu dapiau hŷn.

Gall y data olygu gwahanol ffolderi digidol gyda fersiynau ffeil o gelfwaith ac ategion, ffilmiau fideo neu draciau sain.

Gall yr wybodaeth olygu cyfarwyddyd y prosiect, sgript, scenario, triniaeth, bwrdd stori neu animatig, trac sain; dogfennau yn ymwneud â'r cynhyrchiad, fel manyleb, cynlluniau ac amserlenni, y gyllideb, cyfrifon, neu ddogfennau technegol fel llinellau amser animeiddiad (e.e. gwybodaeth, amser datguddio, taflenni bariau).


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​adnabod yr asedau, data a gwybodaeth rydych yn gyfrifol amdanyn nhw a phryd fydd eu hangen 
  2. adnabod pa systemau sydd mewn lle, os oes yna o gwbl, a lle a sut byddwch yn cadw'r asedau, data a gwybodaeth rydych yn gyfrifol amdanyn nhw'n ddiogel
  3. pan nad oes systemau, sefydlu system sy'n sicrhau bod modd ichi adfer asedau, data a gwybodaeth berthnasol yn rhwydd a chyflym
  4. cadw'r asedau, data a gwybodaeth yn ddiogel ac yn defnyddio'r system rydych wedi'i adnabod
  5. trefnu a chynnal a chadw cofnodion cywir a diweddar sy'n dangos pa asedau, data a gwybodaeth sydd wedi'u cadw ac ymhle

  6. creu cofnodion neu ffeiliau newydd pan fo'u hangen  

  7. adfer asedau, data a gwybodaeth o'r mannau cadw a'u dychwelyd yn brydlon er mwyn bodloni galwadau cynhyrchu a sicrhau y caiff copi wrthgefn o ddeunydd digidol ei gadw
  8. nodi'n glir pryd cafodd asedau, data neu wybodaeth eu symud a phwy sydd wedi'u symud
  9. cofnodi unrhyw broblemau gyda'r system neu gyfleoedd i'w wella
  10. trin gwybodaeth a data cyfrinachol yn unol â'r gofynion cyfundrefnol a diogelu data

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. yr asedau, y data a’r wybodaeth rydych yn gyfrifol amdanyn nhw, a’r defnydd ohonynt, yn y gwaith cynhyrchu
  2. y mathau o asedau, data a gwybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer prosiectau cyfredol neu yn y dyfodol, pryd fydd eu hangen yn debygol a phwy fydd eu hangen
  3. sut gall hawliau a chyfrifoldebau newid yn dibynnu ar bwy sy'n meddu ar berchenogaeth gyfreithiol o'r asedau, data a gwybodaeth (e.e. pan gaiff asedau eu benthyg, llogi neu eu prynu)
  4. y dulliau mwyaf priodol ar gyfer cadw gwahanol fathau o asedau, data a gwybodaeth
  5. pam ei fod yn bwysig i beidio â cholli neu ddifrodi asedau, data a gwybodaeth
  6. pa beryglon neu niwed sy'n debygol o ran asedau, data a gwybodaeth a sut i'w diogelu, fel toriadau, tân,lladrad, methiant pŵer, firysau cyfrifiadurol neu ffactorau amgylcheddol (e.e. gwres, dŵr)
  7. y gweithdrefnau ar gyfer sefydlu systemau lle nad oes systemau a'u cynnal a chadw
  8. pam ei bod yn bwysig bod eich adran yn meddu ar system ffeilio a chadw cofnodion effeithiol ac effeithlon a beth all ddigwydd os nad oes gennych chi systemau o'r fath 
  9. gwahanol fathau o fynegai ffeilio a sut i'w defnyddio
  10. pam ei bod yn bwysig dod o hyd i a dychwelyd asedau, data a gwybodaeth heb oedi diangen
  11. pwysigrwydd gofalu am eich data (e.e. creu copÏau wrthgefn, rheoli fersiynau, diogelu data, cyfrineiriau a muriau gwarchod) a chydymffurfio gyda chanllawiau a strwythurau ffeiliau eich mudiad
  12. y mathau o ddata a gwybodaeth gyfrinachol a sut i fynd i'r afael â'r rheiny'n briodol
  13. pwysigrwydd cadw nodiadau gan ystyried dilyniant
  14. y gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw data a gwybodaeth a chydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGI3

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gwybodaeth, Data, Asedau