Cyflwyno syniadau a gwybodaeth i eraill yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud â chyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn ffordd ddarbwyllol. Gallwch gyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn cyflwyniad ar lafar, un ai wyneb yn wyneb, ar-lein neu dros y ffôn neu ar ffurf cyflwyniadau, tendrau, ceisiadau neu adroddiadau ysgrifenedig neu gymysgedd o’r ddau. Mae’n ymwneud ag adnabod holl fuddion eich cynnig, llunio’ch gwybodaeth mewn ffordd sy’n berthnasol i’ch cynulleidfa targed a chynnig cyfle iddyn nhw ddychwelyd i fanteisio ar fwy o wybodaeth. Gallwch wneud hyn ar ran eich mudiad chi neu weithiwr llawrydd ar ran mudiad arall. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cyflwyno gwybodaeth rydych wedi'i lunio'n effeithiol, sy'n gywir yn ffeithiol ac o ffynonellau dibynadwy
  2. cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd sy'n pwysleisio'r ystod gyflawn o fuddion yn gysylltiedig â'ch cynnig
  3. ystyried yr effaith ar gyllideb y gynulleidfa targed a'r llwyfan cyflwyno wedi'i adnabod ar gyfer y cynnig
  4. dewis yr wybodaeth sy'n fwyaf difyr i'ch cynulleidfa ac sy'n cyfleu eich cynnig yn y ffordd orau posib
  5. gofalu bod modd i'ch cynulleidfa adnabod eich pwyntiau allweddol
  6. defnyddiwch iaith sy'n cyfleu'r pwnc yn eglur ac sy'n briodol i'r gynulleidfa
  7. defnyddiwch gymhorthion gweledol sy'n addas i'ch dull cyflwyno er mwyn gofalu bod eich pwyntiau yn gwbl amlwg a dealladwy i'ch cynulleidfa
  8. cydymffurfio gydag unrhyw gyfyngiadau o ran amser a hyd ac unrhyw gyfyngiadau eraill o ran y gynulleidfa
  9. gofalu caiff cyflwyniadau ar lafar eu cyflwyno mewn dull trefnus, clir, hyderus a difyr
  10. ceisiwch fwrw amcan o ymateb y gynulleidfa yn ystod cyflwyniadau ar lafar gan addasu'r cyflwyniad fel sy'n briodol
  11. rhoi cyfle i'r gynulleidfa i holi am fwy o wybodaeth neu ofyn cwestiynau ynghylch yr wybodaeth gaiff ei chyflwyno
  12. ymateb yn ofalus i gwestiynau, gan ofalu eich bod yn cyflwyno'r wybodaeth y mae'r gynulleidfa yn gofyn amdano
  13. gwerthuso llwyddiant eich cyflwyniad ac adnabod newidiadau a fydd yn gwella eich cyflwyniad yn y dyfodol
  14. cadw gwybodaeth yn unol â'r gofynion cyfundrefnol a'r ddeddfwriaeth diogelu data

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i adnabod y gynulleidfa targed a llwyfan cyflwyno ar gyfer y cynnig
  2. sut i adnabod yr wybodaeth sy'n fwyaf difyr i'r gynulleidfa
  3. sut i gyflwyno syniadau a gwybodaeth mewn ffordd sy'n cyfleu eich effeithiol yn fwy effeithiol nag eraill
  4. cynnwys a strwythur cynigion effeithiol a'r pwyntiau maen nhw'n mynd i'r afael â nhw
  5. sut i gasglu a strwythuro syniadau a gwybodaeth er mwyn darbwyllo a chyfleu eich gwybodaeth yn ffordd orau posib
  6. sut i gadarnhau a chyflwyno gwybodaeth ynghylch dichonoldeb cynigion
  7. sut i ddehongli gofynion dogfen cyfarwyddyd neu ddogfen tendr
  8. pam ei fod yn bwysig sefydlu perthynas gyda'r gynulleidfa pan fo'n bosib
  9. buddion ac anfanteision gwahanol ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth
  10. sut i adnabod y ffordd mae'r gynulleidfa targed yn dymuno derbyn eich syniadau a gwybodaeth
  11. buddion ac anfanteision gwahanol gymhorthion gweledol a ffyrdd o gyflwyno syniadau a gwybodaeth
  12. diben a buddion crynhoi nodweddion pwysig a phwyntiau allweddol a sut i fynd ati i wneud hyn yn effeithiol ar ffurf ysgrifenedig ac ar lafar
  13. effaith posib tôn, cyflymder, uchder eich llais ac iaith y corff ar eich cynulleidfa a'u dealltwriaeth nhw o'ch pwyntiau allweddol yn ystod cyflwyniadau ar lafar
  14. buddion ac anfanteision gwahanol offer cyflwyno, sut i'w ddefnyddio a sut i ddygymod os aiff pethau o'i le
  15. ffyrdd o annog cwestiynau mewn cyflwyniadau ar lafar a chyflwyniadau ysgrifenedig
  16. diben, buddion a ffyrdd o werthuso llwyddiant cyflwyniadau
  17. sut i gadw gwybodaeth er mwyn bodloni gofynion cyfundrefnol a'r ddeddfwriaeth diogelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGI2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau, Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cyflwyniadau, Syniadau, Canfyddiadau