Ymchwilio i’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gweithio yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS13
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymwneud ag ymchwilio i’r wybodaeth sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’ch gwaith ymhellach. Mae’n ymdrin â chynllunio a threfnu’r ymchwil i fodloni’r terfynau amser hynny. Mae hefyd gofyn ichi adnabod ffynonellau, casglu a dehongli deunydd neu wybodaeth sy’n berthnasol i’r cyfarwyddyd a defnyddio canfyddiadau’ch ymchwil i ategu eich gwaith.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau maes, dwysedd ac amcanion penodol ar gyfer yr ymchwil
  2. cadarnhau amseriad a ffurf derfynol yr ymchwil
  3. cynllunio beth sydd angen ichi ei ymchwilio a threfnu'ch ymchwil er mwyn gofalu eich bod yn cyflawni'r gwaith erbyn y terfynau amser gofynnol
  4. cynllunio'r ffynonellau a'r technegau mwyaf priodol ichi a'r rheiny sy'n eich cynorthwyo gyda'r gwaith
  5. gofalu eich bod yn cyfarwyddo unrhyw gynorthwywyr, am eu dyletswydd yn ymwneud â'r ymchwil, yn llawn
  6. adnabod a ydy’r deunydd presennol yn berthnasol ac yn gyfredol
  7. casglu a dehongli'r canfyddiadau wrth iddyn nhw ymddangos ac adnabod unrhyw fylchau sy'n weddill a'r ffynonellau gwybodaeth angenrheidiol i lenwi'r bylchau hynny
  8. gwirio bod yr wybodaeth rydych yn dymuno'i defnyddio ar gael a'i fod yn gyfreithiol ichi ei defnyddio
  9. cydgasglu'r set olaf o ganfyddiadau ac asesu pa wybodaeth sy'n bodloni amcanion yr ymchwil a pha rai gallwch eu hepgor
  10. paratoi'r canfyddiadau mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â'r holl amcanion mewn ffordd gryno, gywir a defnyddiol
  11. gofalu eich bod yn cyflwyno'r deunydd ymchwil yn y ffurf ofynnol ac mewn ffordd sy'n addas ar gyfer ei ddefnydd bwriadedig
  12. gofalu eich bod yn cofnodi'r holl ffynonellau gwybodaeth a chadw hyn gyda chanlyniadau eich ymchwil
  13. gofalu eich bod yn cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol
  14. cadarnhau bod eich canfyddiadau a'ch casgliadau yn bodloni anghenion y person neu fudiad wnaeth gynnig cyfarwyddyd yr ymchwil
  15. adnabod os bydd ymchwil neu ddatblygiad dilynol gan eraill yn golygu y bydd eich canfyddiadau wedi dyddio
  16. lle mae newidiadau yn peri bod rhaid cynnal ymchwil pellach, gofalwch eich bod yn cofnodi'r newidiadau hynny
  17. defnyddio gwybodaeth rydych yn ei hymchwilio yn rhagweithiol er mwyn ategu eich gwaith

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​maes yr ymchwil y mae gofyn ichi ei gynnal
  2. y raddfa amser ar gyfer cwblhau’r ymchwil/gwaith  
  3. dwysedd yr wybodaeth angenrheidiol a sut mae'n berthnasol i'r nod terfynol
  4. technegau ymchwil a fydd yn fodd ichi gynllunio a threfnu'r broses
  5. prif ffynonellau'r wybodaeth briodol
  6. y goblygiadau a'r effeithiau ynghlwm ag ymchwilio hawlfraint, cliriadau a hawliau defnyddio gwybodaeth
  7. ffyrdd effeithiol a phriodol o fynd i'r afael â'r ffynonellau gwybodaeth
  8. prif gysylltiadau a ffynonellau gwybodaeth ynghyd â'r datblygiadau yn y maes rydych yn ei ymchwilio
  9. dulliau casglu a dehongli gwybodaeth
  10. technegau priodol ar gyfer cyflwyno'r wybodaeth mewn ffordd gryno a dealladwy
  11. pryd y mae'n bwysig ichi fwrw golwg arall ar ymchwil er mwyn gofalu nad ydy ymchwil dilynol gan eraill yn golygu bod eich ymchwil chi wedi dyddio
  12. goblygiadau'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data 
  13. y gweithdrefnau cyfundrefnol a graddfeydd amser ar gyfer trin data a dileu data/cofnodion/gwybodaeth

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGSI1

Galwedigaethau Perthnasol

Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Ymchwil, Graddfeydd Amser, Canfyddiadau