Datblygu a defnyddio rhwydweithiau proffesiynol yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSGS12
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2019
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu rhwydweithiau proffesiynol er mwyn cefnogi eich gwaith cyfredol ac yn y dyfodol ynghyd â'ch datblygiad personol.
Gall y rhwydweithiau hyn ymwneud ag ystod eang o bobl – fel cydweithwyr rydych yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw, pobl o fudiadau a busnesau eraill, cleientiaid a chwsmeriaid, aelodau cymdeithasau proffesiynol a masnach yn ogystal â chysyllltiadau cyfryngau cymdeithasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- buddsoddi'ch amser mewn gweithgareddau rhwydweithio a datblygu rhwydwaith o gysylltiadau busnes
- bod yn barod i gymryd yr awenau pan ddaw cyfle i rwydweithio
- sefydlu perthnasau gydag eraill yn gyflym ac yn effeithiol ynghyd â gofalu eich bod yn gwneud argraff gychwynnol da
- gofalu eich bod yn rhannu neges gyson, gan gynnwys eich arwyddion aneiriol
- hysbysu pobl yn gwbl eglur beth allwch chi ei gynnig a sut y bydd yn ategu eu ffordd o weithio
- gofalu eich bod yn cysylltu'n effeithiol gyda chymaint o bobl â phosib mewn unrhyw sefyllfa rhwydweithio
- gofalu eich bod yn mynd ati i gysylltu ymhellach neu weithredu pan fyddwch yn addo gwneud hynny
- argymell pobl eraill yn eich rhwydwaith cysylltiadau pan nad oes modd ichi gynnig gwasanaeth neu gynnyrch
- dod o hyd i fyrdd o gadw mewn cyswllt rheolaidd gyda chysylltiadau newydd a phresennol
- adnabod perthnasau busnes nad ydyn nhw mor llwyddiannus â'r disgwyl a cheisio'u gwella
- dwyn i ystyriaeth y gwahaniaethau rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol o ran eich perthnasau busnes
- cydnabod fod pobl yn meddu ar wahanol weithdrefnau wrth ymdrin ag eraill gan addasu'ch ymddygiad i fodloni hyn lle'n bosib a phriodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddatblygu perthnasau'n gyflym pan fyddwch yn cwrdd â phobl a gofalu eich bod yn creu argraff gychwynnol da
- sut gall iaith y corff ddylanwadu ar eich dulliau cyfathrebu gydag eraill
- sut i wrando'n astud ac aralleirio er mwyn dangos y buoch chi'n gwrando'n astud
- sut i adnabod cyfleoedd drwy wrando ar bobl eraill a chanfod cysylltiadau posib sy'n debyg i'ch sefyllfa chi
- sut i hyrwyddo'ch gwaith mewn ffordd a fydd yn annog eraill i ddysgu mwy amdanoch chi
- pwysigrwydd ymddwyn ag uniondeb tuag at eraill bob amser
- beth sydd angen ichi ei wneud er mwyn datblygu a chynnal parch ac ymddiriedaeth
- pa mor bwysig ydy hi i adnabod a pharchu ffiniau priodol o ystyried eich perthnasau gydag eraill
- sut byddwch chi'n elwa drwy gyflwyno a chyfeirio eich cysylltiadau busnes at eraill pan fo cyfle ichi wneud hynny
- sut i gynnal perthnasau rhwydweithio
- buddion ac anfanteision y grwpiau rhwydweithio ffurfiol sydd ar gael
- sut i adnabod, dysgu am a pharchu'r gwahaniaethau rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau neu gefndiroedd
- beth sy'n dylanwadu ar bobl i ymddwyn mewn ffyrdd penodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGR3
Galwedigaethau Perthnasol
Ffotograffydd, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau, Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Golygydd
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
Rhwydweithiau,Creadigol, Cysylltiadau, Ymddiriedolaeth