Cydweithio’n effeithiol gyda chleientiaid neu gwsmeriaid yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS11
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â chydweithio’n effeithiol gyda chleientiaid neu gwsmeriaid ynghyd â datblygu perthnasau cynhyrchiol a pharhaol gyda nhw er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y byddan nhw’n parhau i gydweithio gyda chi neu fanteisio ar eich gwasanaeth. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​rheoli disgwyliadau cleientiaid neu gwsmeriaid o berthnasau a'r gwaith
  2. cydbwyso eich mewnbwn mewn perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid gan ystyried adnoddau, gofynion ac ymarferion eich mudiad
  3. ymddwyn yn foesol wrth ymdrin â chleientiaid neu gwsmeriaid a datblygu perthnasau sy'n dangos ymddiriedaeth, ymrwymiad a chydweithio
  4. datblygu perthnasau a chyfathrebu mewn ffordd broffesiynol, amserol, amyneddgar a phriodol 
  5. dadw cofnodion o ddisgwyliadau, sgyrsiau a gweithredoedd wedi'u cytuno

  6. gwneud addewidion realistig, cyflwyno gweithredoedd addawedig ymhen y raddfa amser ac yn y dull bu ichi gytuno ynghyd â chrybwyll y llwyddiant i gleientiaid neu gwsmeriaid

  7. gofalu eich bod yn barod am ac yn sôn yn rhagweithiol am newidiadau nad oes modd eu hosgoi mewn cytundebau i gleientiaid neu gwsmeriaid
  8. pennu'r prif ffurfiau dylanwadu a chyfathrebu gyda mudiadau cleientiaid neu gwsmeriaid, gan adnabod yr unigolion sy'n brif wneuthurwyr penderfyniadau a  phrif ddylanwadwyr
  9. hyrwyddo ffyrdd gall gleientiaid neu gwsmeriaid elwa mwy o'u perthynas gyda'ch mudiad chi
  10. meithrin perthnasau proffesiynol ac effeithiol gyda phrif wneuthurwyr penderfyniadau a llunio agenda wedi'i gytuno i'w weithredu
  11. monitro a gwerthuso effeithlonrwydd a phroffidioldeb perthnasau yn rheolaidd
  12. defnyddio adborth gan gleientiaid neu gwsmeriaid i ofalu eich bod yn cynnal safon a chysondeb eich gwasanaeth
  13. ymdrin yn rhagweithiol gyda chwynion neu broblemau cleientiaid neu gwsmeriaid
  14. rhannu adborth gydag eraill yn eich mudiad neu du hwnt i'ch mudiad ar agweddau perthnasau all fod yn berthnasol iddyn nhw
  15. adnabod cyfleoedd i ddatblygu perthnasau newydd neu berthnasau sydd eisoes yn bodoli gyda chleientiaid neu gwsmeriaid a fydd o fudd i'ch mudiad chi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​anghenion a blaenoriaethau cleientiaid neu gwsmeriaid, ac, os yn berthnasol, y marchnadoedd maen nhw'n rhan ohonyn nhw a sut maen nhw'n cynhyrchu incwm
  2. yr amser ac ymdrech ynghlwm â cheisio gofalu bod cleientiaid neu gwsmeriaid yn ymroi i gydweithio gyda'ch mudiad neu fanteisio ar eich gwasanaeth
  3. beth all effeithio ar brosesau gwneud penderfyniadau cleientiaid neu gwsmeriaid ynghyd â'r amser cyflawni gan gynnwys, os yn berthnasol, eu strwythur cyfundrefnol a phrosesau mewnol
  4. meini prawf a phrosesau eich mudiad er mwyn datblygu perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
  5. effaith gor-addo neu weithredu gan ystyried y tymor byr yn unig ar gyfer perthnasau
  6. cyfraniad perthnasau cleientiaid neu gwsmeriaid at gyflawniad nodau strategol a gonestrwydd creadigol eich mudiad
  7. dyletswydd adrannau eraill eich mudiad o ran rheoli perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
  8. buddion ac anfanteision gwahanol ffyrdd o gyfathrebu gyda phobl a sut i gyfathrebu'n eglur ar lafar ac yn ysgrifenedig
  9. sut i asesu peryglon a buddion dichonol perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
  10. sut i adnabod cyfleoedd sy'n ychwanegu gwerth ac arbed arian y cleientiaid neu gwsmeriaid
  11. sut i grybwyll addasiadau angenrheidiol i gytundebau a newidiadau i gynnyrch yn gadarnhaol
  12. beth i'w wneud pan fo pethau'n mynd o'i le
  13. sut i feddu ar y lefel o adnoddau angenrheidiol er mwyn rheoli perthynas gyda chleient neu gwsmer yn effeithiol ac yn broffidiol.
  14. ffyrdd o adnabod a manteisio ar gyfleoedd wrth gynnal perthnasau gyda chleientiaid neu gwsmeriaid
  15. pryd i gyfathrebu gyda phobl neu fudiadau eraill er mwyn gofalu caiff disgwyliadau cleientiaid neu gwsmeriaid ohonoch chi eu bodloni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGR2

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ffotograffig, Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Cwsmeriaid, Cleientiaid, Adborth