Cydweithio’n effeithiol gyda chydweithwyr, partneriaid a chyflenwyr yn y diwydiannau creadigol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn ymwneud â gweithio'n effeithiol gyda phobl eraill yn eich tîm, adrannau eraill, mudiadau eraill a mudiadau cyflenwi er mwyn bodloni nodau ac amcanion.
Mae'n ymwneud â gweithio mewn dull sy'n hyrwyddo perthnasau gweithio cadarnhaol drwy; egluro a chytuno ar ddyletswyddau, cyfrifoldebau a threfniadau gwaith, cyflawni eich tasgau yn brydlon ac yn effeithiol, gofalu eich bod yn meddu ar y cydbwysedd priodol rhwng gweithio'n effeithlon a bodloni gofynion cydweithwyr, cynnal perthnasau proffesiynol a chwrtais, dangos parodrwydd a hyblygrwydd, cydweithio gyda chydweithwyr, cynnig help pan fo'n bosib a gofyn am eu help nhw pan fo'i angen.
Mae angen ichi feddu ar y sgiliau cyfathrebu i egluro a thrafod yr hyn sydd angen ichi ei gyflawni a'ch disgwyliadau gan bobl eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu a chynnal perthnasau a sgyrsiau Rheolaidd gyda phobl yn eich adran chi, adrannau eraill neu fudiadau allanol gaiff eu heffeithio gan benderfyniadau a gweithgareddau yn eich gwaith
ymdrin ag eraill mewn ffordd sy'n annog cydgefnogaeth a chydymddiriedaeth
rheoli disgwyliadau pobl eraill ynghylch beth allwch chi a beth na allwch chi ei wneud
- cyflawni gwaith yn brydlon a bodloni cytundebau ymhen y graddfeydd amser ac i'r safon ofynnol o ran eich swydd
- rhoi gwybod i eraill ar unwaith o unrhyw drafferthion gyda chynnal gweithrediadau wedi'u cytuno neu fodloni ymrwymiadau a thrafod a chytuno ar weithrediadau amgen gyda nhw
- adnabod dulliau amgen i ymdrin â newidiadau i ofynion neu adnoddau sydd ar gael
- gwneud penderfyniadau gwybodus ac ystyried sut bydd eich penderfyniadau yn effeithio ar eraill yn eich mudiad a phobl allanol
- dangos sensitifrwydd yn ymwneud â gwleidyddiaeth fewnol ac allanol a chydnabod a pharchu eu dyletswyddau, cyfrifoldebau a blaenoriaethau eraill
- cyfathrebu'n effeithiol a chyflwyno gwybodaeth, eich gofynion a'ch pryderon ar yr adeg briodol ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth
- dwyn i ystyriaeth safbwyntiau a phryderon eraill, gan gynnwys eu blaenoriaethau, disgwyliadau ac agweddau a rhannu eich disgwyliadau gyda nhw
- defnyddio dulliau priodol i'ch helpu i weithio'n effeithiol gyda phobl anhydrin
- adnabod gwrthdaro buddiannau posib ac anghytundebau a gweithredu i'w osgoi. Bydd gofyn ichi ddatrys unrhyw sefyllfaoedd nad oes modd eu hosgoi mewn ffyrdd sy'n niweidio lleiaf ar weithgareddau gwaith, y bobl ynghlwm a'r mudiad
- monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasau gweithio gydag eraill, dod o hyd i a chynnig adborth, er mwyn adnabod meysydd sydd angen eu gwella
- gweithio mewn dull cyfrifol a moesol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwahanol weithrediadau busnes y mudiad rydych yn gweithio iddo a'u dyletswyddau a chyfrifoldebau er mwyn cyflawni nodau cyffredinol y mudiad
- hierarchaethau a dynameg unrhyw dimau rydych yn rhan ohonyn nhw
- pobl berthnasol yn eich adran chi, adrannau eraill, mudiadau cyflenwi neu fudiadau partner a'u dyletswyddau gwaith, cyfrifoldebau ac ehangder eu sgiliau
- y prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghyd â'r berthynas gyda chyflenwyr o ran mudiadau cleient, eich mudiad chi a mudiadau partner
- sut i ymateb yn gadarnhaol i newidiadau
- sut i fagu hyder i wneud penderfyniadau hyd yn oed pan mae ond ychydig o wybodaeth ar gael i'ch cynorthwyo
- pwysigrwydd ystyried anghenion mudiadau eraill, a chleientiaid wrth i'ch mudiad fynd ati i feddwl a chynllunio
- pwysigrwydd rheoli disgwyliadau eraill o be ellir ei gyflawni a phryd
- pwysigrwydd canolbwyntio ar ddatrysiadau yn hytrach na phroblemau
- sut i weithio fel rhan o dîm er mwyn annog meddwl ar y cyd a chyflawni'r cyfarwyddyd
- sut i adnabod pryd a sut i gyfathrebu gydag eraill
- ffyrdd o ymgynghori gyda chydweithwyr, mudiadau partner a chyflenwyr ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol
- sut i adnabod pwysigrwydd eich dyletswydd yn broses cyffredinol ac effaith eich agwedd, eich modd o reoli amser, eich terfynau amser ac ansawdd eich gwaith ar eraill
- sut i fynegi eich safbwynt hyd yn oed pan fyddwch yn cyfathrebu gyda chydweithwyr uwch neu fwy profiadol na chi
- sut i gyfathrebu gyda chydweithwyr a chyflenwyr yn effeithiol mewn gwahanol sefyllfaoedd a gwahanol leoliadau a gwledydd a pha wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw
- sut i reoli'r bobl sy'n uwch ac yn is na chi o ran eu rheng
- pam ei fod yn bwysig cydnabod a pharchu dyletswyddau, cyfrifoldebau, anghenion, cymhellion, buddion a phryderon cydweithwyr, mudiadau partner a chyflenwyr
- sut i adnabod a chyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol i gydweithwyr a chyflenwyr yn unol â gofynion diogelu data
- pa wybodaeth sy'n briodol ac yn amhriodol ichi ei chyflwyno i gydweithwyr a chyflenwyr a'r ffactorau y mae angen ichi eu dwyn i ystyriaeth
- yr effaith posib ar gydweithwyr, mudiadau partner a chyflenwyr a safon eu gwaith os byddwch yn cuddio gwybodaeth allweddol