Rheoli a marchnata eich hun fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol
Trosolwg
Mae'r Safon hon yn arbennig ichi os ydych chi'n gweithredu fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol. Er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddiannus, mae angen ichi chwilio am a dod o hyd i waith, trafod eich cytundeb eich hun (oni bai fod gennych chi asiant) a bodloni gofynion cyllidebu a chyfreithiol yn ymwneud â'ch statws llawrydd.
Mae hyn yn golygu meddu ar ddealltwriaeth dda o sut i hyrwyddo'ch cyflawniadau, hybu eich enw da a gofalu eich bod yn diweddaru eich sgiliau a gwybodaeth.
Mae hefyd yn ymwneud ag ystod o sgiliau busnes sy'n angenrheidiol er mwyn ffynnu fel gweithiwr llawrydd. Fe fydd angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol baratoi ar gyfer dilyn gyrfa portffolio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu, cadw mewn cyswllt a chynnal cysylltiadau busnes yn y diwydiant yn rheolaidd
- ymwneud â rhwydweithiau perthnasol a mudiadau arbenigol i gefnogi eich gwaith llawrydd
- adnabod a dilyn strategaethau priodol er mwyn datblygu eich enw da proffesiynol a hyrwyddo'ch hun i gleientiaid posib.
- gofalu fod gennych chi systemau mewn lle sy'n helpu i adnabod cyfleoedd gwaith yn y cyfnod cynnar
hyrwyddo eich enw da drwy ofalu eich bod yn dosbarthu gwybodaeth gyfredol a chryno am eich profiad, gwaith blaenorol, cyflawniadau ac argaeledd
ymchwilio i asiantau dichonol neu gynrychiolwyr eraill yn eich ardal
- defnyddio eraill fel modelau cymhwysedd gan alluogi ichi adnabod anghenion datblygu a hyfforddiant
- gofyn am adborth adeiladol gan bobl berthnasol ynghylch eich perfformiad, yna gwerthuso'r adborth er mwyn adnabod eich anghenion datblygu
cynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun er mwyn gofalu eich bod yn adfywio, diweddaru ac ychwanegu at eich sgiliau a gwybodaeth
gosod nodau realistig yn ymwneud ag anghenion hyfforddiant, perfformiad a chynnydd, targedau busnes, a’r defnydd o amser ac adnoddau er mwyn cyflawni amcanion, gan ailymweld â nhw a’u hadolygu’n rheolaidd
- gofalu bod cofnodion a chyfrifon yn cael eu diweddaru fel sy’n briodol a’u bod yn gywir a pherthnasol
- gosod a defnyddio systemau effeithiol ar gyfer rheoli cyllidebau, treth, TAW a gwaith papur arall
- sefydlu a chynnal gwasanaethau effeithiol i gefnogi'ch hun fel gweithiwr llawrydd
- cynllunio at y dyfodol i drefnu a chynnal llif gwaith ac arian ymarferol
- gofalu eich bod yn hyblyg ac yn barod i addasu i fodloni galwadau eraill gan gynnal eich arddull gweithio personol, eich brand a'ch enw da
- trafod amodau a thelerau sy'n bodloni gofynion cyfreithiol o ran cyfleoedd cyfartal, cyfraith gwaith, rheoliadau diwydiant cynhyrchu ac iechyd a diogelwch
- amcan a chytuno ar gyfraddau ffi realistig, amserlen a chostau eraill
- gosod deilliannau perfformiad eglur
- gofalu bod y cytundeb yn ymdrin â manylion yn ymwneud â thermau talu a chyfyngiad amser i dderbyn taliadau ynghyd â gofalu caiff goblygiadau pawb ynghlwm eu trafod yn eglur
- gofalu bod manylion y cytundeb yn cyd-fynd gyda chytuniadau a chadw copi ysgrifenedig o'r cytundeb terfynol, wedi'i arwyddo, yn ddiogel
- penderfynu a fyddai cynnal proffiliau proffesiynol ar-lein yn fuddiol i'ch gwaith chi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwy ydy'r prif fudiadau comisiynu yn eich maes arbenigedd chi a'r ffordd orau o gysylltu gyda nhw
- sut i gynnal eich moeseg a'ch arferion proffesiynol chi a dilyn y datblygiadau newydd yn y diwydiant amlgyfryngau
- ffyrdd derbyniol o farchnata eich hun a'ch gwasanaethau yn eich diwydiant
- ffyrdd creadigol o ddangos i gleientiaid ei fod yn fuddiol iddyn nhw gysylltu gyda chi ynghylch gwaith posib
- yr adnoddau gorau a mwyaf effeithiol er mwyn hyrwyddo eich hun
- a fyddai asiant, gwasanaeth dyddiadur neu gronfa ddata talent ar-lein, yn medru eich helpu i ddod o hyd i waith
- sut i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn eich diwydiant chi
sut i amcangyfrif cyfraddau realistig ar gyfer ffioedd, ac os yn briodol, adnoddau fel llety a threuliau
sut i drafod amodau a thelerau yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y diwydiant
- pryd bydd angen ichi drefnu yswiriant a sut i wneud hynny
- pryd a sut i gytuno ar randaliadau
- sut i gynnal cysylltiadau ac arwain trafodaethau gyda chleientiaid posib
- sut i drafod a chytuno ar gytundebau cyfreithiol sy'n ymwneud ag incwm disgwyliedig, yr amser sydd ar gael a deilliannau sefydlog eglur
- ffynonellau cyngor perthnasol yn ymwneud â gwaith, yswiriant, rheoliadau treth a deddfwriaethau busnesau bach eraill
- sut i gadw cofnodion syml (incwm, gwariant a llif arian) a sut i anfonebu a mynd ar drywydd taliadau hwyr
- sut i osod a rheoli cyllidebau personol a busnes
- sut i gydnabod y gwahaniaeth rhwng penderfyniadau creadigol a busnes
- sut i gynllunio ar gyfer yr annisgwyl, gosod amserlenni a chynllunio at y dyfodol er mwyn ichi fedru cynnal llif arian a gwaith ymarferol
- sut i ddatblygu rhwydweithiau cefnogi er mwyn mynd i'r afael â'r anawsterau ynghlwm â gweithio ar eich pen eich hun
- sut i adnabod mentoriaid dichonol a datblygu perthynas fentora gynhyrchiol
- sut i reoli eich datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf
- buddion cynnal proffiliau proffesiynol ar-lein a'r dewisiadau er mwyn cyflawni hyn gan gynnwys gwefannau hyrwyddo, blogiau a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol