Archwilio lleoliadau yn y cyfnod cyn cynhyrchu

URN: SKSGC3
Sectorau Busnes (Cyfresi): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae’r safon hwn yn ymwneud â’r gwaith rhagarweiniol ar gyfer archwilio lleoliadau yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu. Mae’n ymwneud â mynychu cyfarfodydd cynhyrchu, ymweld â lleoliadau, cynhyrchu gwybodaeth ar gyfer isgontractwyr, a chysylltu â pherchnogion safleoedd.

 

Mae’n cynnwys cynghori cydweithwyr cynhyrchu o unrhyw arferion gweithio arbennig ac unrhyw ganiatâd y gallai fod angen ei gael, yn ogystal â chynhyrchu asesiadau risg.

 

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sydd angen archwilio lleoliadau yn y cyfnod cyn cynhyrchu.

 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cyfrannu at gyfarfodydd cyn cynhyrchu ar adegau addas

2      Cynhyrchu asesiadau risg ar gyfer yr holl offer perthnasol ar gyfer pob lleoliad

3      Amcanu a gwerthuso gofynion ar gyfer eich maes cyfrifoldeb chi yn erbyn anghenion cynhyrchu

4      Manylu ar amgylchiadau pob lleoliad a gofynion arbennig ar gyfer cynyrchiadau mewn dogfennau addas

5      Gwirio fod dogfennau a gwblhawyd yn gryno a darllenadwy

6      Cynghori’r cynhyrchwyr ar adegau addas am unrhyw agwedd ar leoliadau a allai achosi problemau i offer, criw cynhyrchu neu unrhyw drydydd parti

7      Cynghori’r cynhyrchwyr am unrhyw fesurau diogelwch neu sicrwydd arbennig a fydd yn angenrheidiol wrth i offer gael ei weithredu neu’i adael heb oruchwyliaeth

8      Rhoi gwybod i gynhyrchwyr a chyflenwyr am unrhyw newidiadau cyn gynted ag y dônt yn amlwg

9     Cael cyngor arbenigol gan ffynonellau dibynadwy yn ôl y galw.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac arfer orau’r diwydiant

2      Sut i ddehongli’r briff cynhyrchu yn ofynion technegol

3      Sut i gynghori ar addasrwydd lleoliadau

4      Sut i ddehongli a gweithredu deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch ac arferion gweithio’r diwydiant sy’n berthnasol i’r gwaith

5      Manteision gwaith tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

6      Eich cyfrifoldeb i berchnogion offer, personél cynhyrchu, a pherchnogion lleoliadau

7      Sut i asesu diogelwch a sicrwydd offer pan fyddan nhw’n cael eu gweithio neu wedi’u gadael heb oruchwyliaeth

8      Fformatau addas ar gyfer cofnodion

9      Pryd a ble i gael gafael ar gyngor arbenigol

10   Sut i asesu anghenion mynediad ar gyfer trafnidiaeth drom

 

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSGC3

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Recces, Lleoliadau, Iechyd a diogelwch, Asesiad rig