Rigio mowntiau car mewn cerbydau neu arnynt
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â mowntio mownt camera mewnol neu allanol ar gerbyd neu ynddo. Mae’n ymwneud â dethol y math cywir o fownt camera a gosod y mownt heb niweidio’r cerbyd.
Mae’n ymwneud â defnyddio rhaffau strapiau hogi ac offer gosod arall, ac asesu cryfder ac addasrwydd y deunyddiau hynny. Mae’n ymwneud ag adnabod pob perygl ac amgylchiad amgylcheddol a allai effeithio ar y gwaith, cynhyrchu asesiad risg a rhoi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw anghenion arbennig.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio mowntiau car.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gwirio fod pwysau’r camerâu a’r ategolion ddim yn fwy nag uchafswm llwyth pwysau’r mowntiau
2 Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau’r lleoliadau ac onglau siot sydd eu hangen
3 Gwirio fod arwynebeddau y bydd offer yn cael ei fowntio arno’n ddigon cryf i’w gynnal
4 Cadarnhau gyda phobl berthnasol lwybrau, cyflymder, safleoedd a chyfeiriad y cerbyd sy’n cael ei fowntio ac unrhyw gerbydau eraill
5 Teithio ar hyd y llwybr bwriedig ar adeg addas i adnabod natur yr arwynebedd ac unrhyw rwystrau
6 Cynhyrchu asesiad risg yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
7 Adeiladu a lleoli rigiau a gwneud camerâu ac ategolion yn sownd yn unol â gofynion cynhyrchu
8 Defnyddio deunyddiau, rhaffau, clymau, strapiau hogi, gwifrau a strapiau clicied addas, yn unol â’u manylebau er mwyn atal unrhyw symud diangen
9 Nodi pwlis a rhaffau sydd o fewn llwythi gweithio diogel (SWL)
10 Cadarnhau nad yw rigiau’n rhwystro’r hyn y gall gyrwyr ei weld na’u gallu i gadw rheolaeth ar y cerbyd
11 Rigio cerbydau mewn modd sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau cerbyd neu drafnidiaeth ffordd
12 Cynghori staff cynhyrchu perthnasol pan fydd angen caniatâd arbennig
13 Rhoi gwybod i staff cynhyrchu addas am unrhyw rwystr neu amgylchiadau sy’n effeithio gweithio’r rigiau’n ddiogel
14 Gwirio fod y rig yn ddiogel yn unol â rheoliadau a chanllawiau cyfredol
15 Diogelu a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
2 Pwysau’r camera ac unrhyw ategolion, sut i’w cyfrifo, a sut y gallant effeithio ar y mowntiau
3 Y math o ddeunyddiau yr atodir mowntiau iddynt, a’u cryfder
4 Llwybr bwriedig a chyflymder y cerbyd, a’r gofod clirio a chryfder unrhyw atodiadau sydd eu hagen
5 Natur yr arwynebedd y gyrrir arno, a sut i adnabod unrhyw rwystrau posib
6 Safle bwriedig unrhyw gerbydau atodol neu rai sy’n pasio
7 Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill
8 Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
9 Sut i gynhyrchu asesiad risg
10 Sut i ddethol y math o rig a sut i’w gyfosod heb achosi unrhyw niwed i’r cerbyd
11 Mathau gwahanol o strapiau hogi, clymau, strapiau clicied a gwifrau ar gyfer darparu sadrwydd a diogelwch ychwanegol
12 Sut i glymu hwylraff, cwlwm clof, cwlwm hanner a chwlwm llinglwm
13 Sut i ddethol y math cywir o drac, pwli, strap hogi, cwlwm, strap clicied a weiren
14 Llwythi gweithio diogel y deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer cymhwysiad penodol a sut i’w cyfrifo
15 Pa fesurau i’w cymryd i sicrhau fod y gyrrwr ac unrhyw gyd-deithwyr yn ddiogel
16 Sut i ddatgysylltu’r bagiau awyr a phryd y mae’n addas gwneud hynny
17 Pa ddyfeisiadau i’w ddefnyddio i warchod yr offer camera rhag niwed allanol
18 Rheoliadau cerbydau neu drafnidiaeth ffordd berthnasol
19 Caniatâd arbennig y gellir bod angen ei gael pan fydd angen defnyddio cerbydau ar y briffordd gyhoeddus
20 Pa amgylchiadau allai effeithio ar weithredu diogel ac wrth bwy y dylid rhoi gwybod
21 Beth sy’n debygol o dynnu sylw defnyddwyr eraill y ffordd
22 Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
23 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill