Rigio pennau a systemau o bell
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gosodiad arbenigol pen a reolir o bell. Gallai hyn fod ar graen neu unrhyw fath arall o fownt y mae’r grip yn gyfrifol amdano, ble nad yw manyleb lawn y craen yn wybyddus i gyflenwr y pen o bell o reidrwydd. Mae’n ymwneud â chyflawni hyn yn ddiogel ac o fewn paramedrau’r mownt sydd i gael ei ddefnyddio.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio pennau a
systemau o bell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Cynnal asesiadau risg yn unol â gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer lleoliadau risg uchel
2 Gwirio fod pwysau’r pennau ynghyd â’r pwysau eraill sydd i’w llwytho ar y mowntiau ddim yn fwy na manylebau’r gwneuthurwr
3 Defnyddio rhyngwynebau a dyfeisiadau sicrhau a nodir
4 Sicrhau fod unrhyw fondiau daearu arbennig yn sicr a bod pob cebl yn caniatáu symud y pennau’n llawn ymhob cyfeiriad sy’n cael ei ddefnyddio
5 Gwirio nad yw ceblau’n gallu amharu ar fowntiau nac unrhyw beth nad yw’n rhan o’r mowntiau
6 Darparu gwarchodaeth amgylcheddol yn unol â manylebau’r mowntiau
7 Cytuno ar ddulliau cyfathrebu rhwng yr holl griw sy’n ymwneud `â gweithredu’r rigiau, sy’n ddibynadwy
8 Diogelu a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
2 Sut i adnabod pan fydd lleoliadau’n risg uchel gan gynnwys uchder a lleoedd cyfyng.
3 Sut i gael gwybodaeth am bwysau pennau o bell, eu prif lwyth, ac unrhyw geblau, a’u perthnasedd i rigiau a’r hyn y maen nhw’n mynd i gael eu mowntio arnyn nhw
4 Dulliau a mathau o ffasninau sydd eu hagen i osod pennau o bell i fowntiau
5 Y mathau o glymau diogelwch ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer camerâu a’u hategolion
6 Unrhyw ofynion trydanol arbennig
7 Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill
8 Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
9 Unrhyw ofynion neu gyfyngiadau amgylcheddol arbennig
10 Bod gweithdrefnau a chyfathrebiadau diogelwch yn eu lle rhwng y grip a chriw’r camera, a’u pwysigrwydd
11 Gweithdrefnau i’w mabwysiadu wrth weithio ar uchder, gan gynnwys gwarchod, byrddau bysedd traed, byrddau cicio a chanllawiau dwylo
12 Sut i sicrhau offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
13 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill