Rigio craeniau camera a breichiau jib

URN: SKSG7
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio craeniau camera neu freichiau jib. Mae’r term craen neu graeniau wedi dod yn derm generig. Maen nhw’n amrywio’n enfawr o ran maint a phwysau. Bwriadwyd y safon hon i gynnwys pob maint a phwysau o graen a breichiau jib. Mae’n cynnwys deall manylebau’r gwahanol fathau o offer craen, yr hyn y maen nhw’n gallu gwneud a’r ffordd y maen nhw’n gweithio, ac addasrwydd eu defnyddio yn yr amodau amgylcheddol cyfredol. Mae’n cynnwys eu defnyddio ar y cyd â mathau eraill o lwyfannau symudol, a rhagweld gofynion diogelwch arbennig y cyhoedd, y perfformwyr a’r criw o ran offer.

 

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â rigio craeniau camera neu freichiau jib ar gyfer cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cadarnhau fod manylebau gwneuthurwyr neu gyflenwyr a thystysgrifau prawf diogelwch rheoliadol yn ddilys ac ar gael

2      Defnyddio craeniau a jibiau o’r hyd addas ar gyfer y siotiau sydd eu hangen

3      Rigio craeniau’n unol â gweithdrefnau trin â llaw a rheoliadau perthnasol

4      Rhoi gwybod i bobl berthnasol pan fydd agweddau ar leoliadau’n anaddas neu’n beryglus ar gyfer defnyddio craeniau camera a breichiau jib

5      Gwirio fod cyfanswm pwysau’r holl offer camera, gan gynnwys gweithredwyr camera a’u camerâu ar gyfer craeniau y mae rhywun yn reidio arnynt, o fewn i bwysau gweithio diogel y gwneuthurwr

6      Gwirio fod unrhyw arwyneb neu fownt arall, neu fath o drac yn gallu cynnal y craeniau

7      Gwirio fod hydroleg, pwyseddau ac unrhyw declynnau diogelwch pwysau a ymgorfforir, yn unol â manyleb y gwneuthurwr

8      Darparu cyfrwyon diogelwch sydd o fewn dyddiad ar gyfer pob aelod perthnasol o’r tîm, cynhyrchu

9      Adeiladu craeniau’n unol â rheoliadau a chanllawiau presennol fel nad yw’n eu niweidio nac yn peryglu pobl

10   Gwirio fod pob dyfais gloi’n weithredol, yn ei lle ac yn gweithio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

11   Cyfarwyddo pobl berthnasol ar y modd o ddefnyddio unrhyw swyddogaethau cloi a diogelu arbenigol

12   Darparu dyfeisiadau cloi sy’n atal symud heb ganiatâd ar graeniau y gellir eu reidio

13   Gweithredu rheoliadau gweithio diogelwch wrth weithio ger ceblau dros ben a cheblau ynni

14   Sicrhau craeniau yn ystod rigio neu storio i atal unrhyw ddigwyddiadau a allai’u niweidio neu eu gwneud yn anniogel

15   Ceisio cefnogaeth arbenigol gan bobl berthnasol i ddarparu unrhyw gyflenwadau ynni neu fondio daear ar gyfer gweithredu offer

16   Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod unrhyw gynnal a chadw arbenigol sydd ei angen yn ystod defnyddio’r offer

17   Darparu gwarchodaeth amgylcheddol ddiogel a saff ar gyfer offer a gweithredwyr, yn unol â rheoliadau, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant.

18   Mabwysiadu gweithdrefnau arbennig gofynnol wrth weithio ar uchder

19   Cynnal pwysedd teiars nad ydynt yn solid, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

20   Cynghori pobl berthnasol o ofynion diogelwch arbennig pan adewir craeniau heb oruchwyliaeth

21   Gwirio fod yr holl adeiladwaith yn ddiogel i’w ddefnyddio ac yn rhydd o unrhyw rwystrau, a bod yr ardal waith yn daclus bob amser

22   Sicrhau fod unrhyw geblau’n ddiogel, yn rhydd o allu cael eu niweidio ac yn ddigon hir

23   Gweithredu craeniau i ddangos eu bod yn ddiogel ar gyfer symudiad ac ymestyniad llawn y defnydd bwriedig, heb ddim rhwystrau neu beryglon diogelwch eraill.

24   Sicrhau craeniau yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr cyn y bydd unrhyw bersonél yn mynd ar i’r craen neu’n dod oddi arno, gan gytuno o’r ddeutu ynghylch pob symudiad o’r fath gydag unrhyw weithredwyr eraill

25   Sicrhau a diogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr

26   Rhoi cyfarwyddyd clir o’r mannau o dan a gerllaw craeniau ble na ddylai pobl gerdded

27  Gwirio fod llwybrau’n rhydd o bobl nad ydyn nhw’n hanfodol, ceblau a rhwystrau eraill.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Rheoliadau a chanllawiau cyfredol sy’n ymwneud â rigio craeniau a breichiau jib gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â phrofi, rigio a gweithredu craeniau camerâu a breichiau jib.

2      Sut i gwblhau asesiad risg, a phwy yn y tîm cynhyrchu sydd angen yr wybodaeth honno

3      Gofynion y cynhyrchiad a’r lleoliadau gweithredu a ragwelir

4      Manylebau’r gwneuthurwyr neu’r cyflenwyr a’u perthnasedd

5      Dilysrwydd a bodolaeth unrhyw dystysgrifau diogelwch a phrawf

6      Ystod craen y camera a braich y jib, eu defnydd a’r gwahaniaethau rhyngddynt, a sut i adnabod y math cywir i’w ddefnyddio, gan gynnwys hyd addas, i gwrdd â gofynion penodol unrhyw siot.

7      Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill

8      Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

9      Pwysau’r craen a’r holl offer sydd i’w fowntio arno

10   Sut i gael manylion pwysau pob personél a fydd yn cael eu cludo ar y craen

11   Defnyddio a rigio craeniau a jibiau’n ddiogel ar gerbydau tracio

12   Addasrwydd yr arwyneb neu drac a ddefnyddir i gynnal y craen

13   Llwythi gweithio diogel a ffiniau’r craen

14   Sut i gael gwybodaeth am, a chyfrifo, cyflymder y gwynt ac uchder neu gyrraedd gweithio diogel yn y tywydd sydd yn digwydd ar y pryd

15   Oblygiadau unrhyw nwyon neu hydroleg a gynhwysir yn yr offer a sut i’w monitro

16   Y drefn gywir y dylid adeiladu craeniau ynddi

17   Sut i wirio fod dyfeisiadau cloi yn gweithio’n gywir

18   Sut i sicrhau craeniau pan fyddant yn cael eu rigio neu storio

19   Achosion posib o niwed i’r craen a sut i’w hosgoi

20   Sut i gynghori’r adran drydanol pan fydd angen cyflenwadau trydan ar gyfer gweithredu’r craen

21   Pa weithdrefnau cynnal a chadw parhaus sydd eu hangen

22   Sut i adnabod namau a’r weithdrefn adrodd nôl gywir

23   Gweithdrefnau gweithredu diogel ar gyfer llwytho a dadlwytho craeniau ar gyfer mynd i mewn ac allan, gan gynnwys â phwy i gyfathrebu

24   Yr offer gwarchod amgylcheddol sydd ei angen

25   Sut i ddiogelu’r rig pan fydd wedi cael ei adael heb ei oruchwylio neu mewn amodau tywydd anffafriol

26   Sut i wirio’r ardal uwchlaw ac o gwmpas cylch llawn y safle adeiladu a gweithredu ar gyfer unrhyw berygl diogelwch neu rwystr

27   Â phwy i gyfathrebu ar y set o ran defnyddio’r craen neu’r jib yn ddiogel

28   Y gofynion diogelwch arbenigol a all fod yn berthnasol pan adewir craeniau heb oruchwyliaeth

29   Sut i roi gwybod i bob personél cynhyrchu am arferion gweithio diogel

30   Pryd a ble i geisio cyngor a gwybodaeth gymwys addas arall

31   Pa Offer Gwarchod Personol (PPE) sydd ei angen, a phryd i’w ddarparu

32   Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

33   Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill 

34  Arwyddion addas i rybuddio eraill o beryglon cerdded ger craeniau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG7

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

34717

Geiriau Allweddol

Grip, Breichiau jib, Craeniau camera, Iechyd a diogelwch, Trac