Rigio dolis camera a llwyfannau tracio
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio dolis camera neu lwyfannau tracio (nid craeniau). Mae hyn yn cynnwys deall y llwythi pwysau ac unrhyw wrthbwysau arbennig sydd ar waith. Mae’n ymwneud â darparu a chynnal a chadw unrhyw gyflenwadau ynni angenrheidiol a sicrhau eich bod chi’n deall y gofynion cynnal a chadw.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â
rigio dolis camera neu lwyfannau tracio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gwirio fod yr arwyneb neu’r trac sy’n cynnal y pwysau’n addas ar gyfer y doli camera neu’r llwyfan tracio
2
Gwirio fod llwythi pwysau offer a gweithredwyr o fewn i lwythi
gweithio diogel y gwneuthurwr
3
Gwirio fod hydroleg, pwyseddau ac unrhyw declynnau diogelwch pwysau
a ymgorfforir, yn unol â manyleb y gwneuthurwr
4
Sicrhau fod trefn y gwaith adeiladu’n ddiogel ac na fydd yn peryglu
eraill nac yn niweidio offer
5
Gwirio fod pob dyfais gloi’n weithredol, yn ei lle ac yn gweithio’n
unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
6
Cyfarwyddo pobl berthnasol ar y modd o ddefnyddio unrhyw swyddogaethau
cloi a diogelu arbenigol
7
Adrodd am ddiffygion mewn offer yn unol â gweithdrefnau cynhyrchu
8
Sicrhau offer yn ystod rigio neu storio er mwyn atal unrhyw
ddigwyddiadau a allai ei niweidio neu’i wneud yn anniogel
9
Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod unrhyw ofynion trin neu
gynnal a chadw arbenigol yn ystod y cyfnod defnyddio
10
Darparu gwarchodaeth amgylcheddol ddiogel a saff ar gyfer offer a
gweithredwyr, yn unol â rheoliadau, canllawiau ac arfer orau cyfredol y
diwydiant.
11
Sicrhau fod yr holl adeiladwaith yn ddiogel ar gyfer y pwrpas y
bwriadwyd ef ar ei gyfer, a’i fod yn rhydd o unrhyw rwystrau
12 Sicrhau fod ceblau’n ddigon hir ac na ellir eu niweidio
13
Ceisio cymorth arbenigol gan bobl berthnasol pan fydd angen offer
trydanol
14 Rigio trolis camera a
llwyfannau tracio yn unol â gweithdrefnau trin â llaw.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
2 Sut i adnabod pwysau’r ddyfais dracio
3 Sut i gyfrifo pwysau’r holl offer sydd i gael ei fowntio
4 Sut i gael manylion pwysau pob personél a fydd yn cael eu cludo ar yr offer
5 Sut i werthuso addasrwydd arwynebeddau neu drac sy’n cynnal pwysau
6 Ble i ddod o hyd i wybodaeth am fanylebau pwysau’r gwneuthurwr
7 Llwythi gweithio diogel yr offer a’u pwrpas
8 Oblygiadau unrhyw nwyon neu hydroleg a gynhwysir yn yr offer a sut i’w monitro
9 Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill
10 Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
11 Y drefn y dylid adeiladu offer ynddi
12 Sut i wirio dyfeisiadau cloi i atal symud heb ganiatâd
13 Sut i sicrhau offer pan fo’n cael ei rigio neu storio
14 Achosion posib o niwed i offer a sut i’w hosgoi
15 Y gweithdrefnau cynnal a chadw parhaus sydd eu hangen
16 Sut i adnabod namau a’r weithdrefn adrodd nôl gywir
17 Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys Offer Gwarchod Personol (PPE) gofynnol
18 Y gwarchod amgylcheddol angenrheidiol
19 Sut i sicrhau’r rig pan fydd wedi cael ei adael heb ei oruchwylio neu mewn amodau tywydd anffafriol
20 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill
21 Pryd a ble i geisio cyngor arbenigol.