Gosod trac cymhleth

URN: SKSG5
Sectorau Busnes (Cyfresi): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gosod trac ar gyfer doliau neu graeniau camera. Mae’n ymwneud ag asesu addasrwydd yr arwyneb ble defnyddir y trac, a’r math o drac yng nghyd-destun meintiau a phwysau’r offer sydd i’w gludo.

 

Mae’n ymwneud ag asesu unrhyw garntro arbenigol sydd ei angen gan oleddfau ac oblygiadau diogelwch personél sy’n mynd ar gefn unrhyw offer sy’n defnyddio’r trac.

 

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â
gosod trac cymhleth ar gyfer doliau neu graeniau camera. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Sicrhau fod unrhyw arwynebedd yn cynnal holl hyd y traciau’n ddigonol

2      Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod eitemau uwchlaw’r traciau ac i’r naill ochr a’r llall ohonynt a allai achosi rhwystr neu berygl

3      Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i asesu tebygolrwydd a natur, unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar sefydlogrwydd yr arwynebedd

4      Nodi’r math o lawr, y fframiau a’r byrddau a fydd yn cynnal pwysau’r traciau

5      Gosod traciau sy’n wastad a thawel

6      Darparu cymorth ychwanegol sy’n rhoi cryfder digonol dros fylchau neu fargodion, gan alw ar rigiwr arbenigol i ddod i mewn pan fo’n addas

7      Defnyddio mathau o draciau a argymhellir gan gyflenwyr

8      Sicrhau fod traciau’n sefydlog a diogel ar oleddfau serth, a bod modd i ddoliau allu tracio

9      Darparu lifftiau fertigol gan ddefnyddio offer addas

10   Asesu a gosod atalfeydd diogelwch neu ddyfeisiadau brecio sy’n atal gorgyflymder neu dros redeg

11   Gosod trac mewn dull sy’n rhwystro unrhyw un rhag baglu drosto ar ddamwain

12   Sicrhau fod y trac yn ddiogel rhag niwed gan bethau’n cwympo neu gan gerbydau sy’n symud

13   Sicrhau fod unrhyw asesiadau risg yn cael eu nodi, a bod pob personél yn cydymffurfio â’u gofynion.

14   Monitro a chynnal traciau ar gyfer holl gyfnod y gosodiad / siot

15   Symud a gosod traciau yn unol â gweithdrefnau trin â llaw

16  Sicrhau a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth berthnasol, arweiniad ac arfer orau’r diwydiant

2      Sut i gynhyrchu asesiadau risg ar gyfer yr hunan ac eraill

3      Cyfeiriad ac ongl y siotiau a llwybr unrhyw ddigwydd

4      O ble i gael gwybodaeth am leoliad y trac a’r hyd sydd ei angen

5      Yr amser sydd ar gael i adeiladu

6      Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas galw ar arbenigwyr eraill

7      Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

8      Sut i asesu sefydlogrwydd arwynebeddau

9      Pa amgylchiadau allai effeithio ar sefydlogrwydd arwynebeddau

10   Sut i warchod arwynebedd bregus rhag niwed

11   Dulliau adeiladu ar gyfer mathau perthnasol o loriau, fframiau a byrddau

12   Sut i gael mynediad i rigwyr arbenigol i osod unrhyw ddeciau angenrheidiol ar gyfer traciau a phryd y mae’n addas eu defnyddio

13   Sut i adeiladu a chynnal trac gwastad, tawel, waeth beth fo’r arwyneb

14   Y mathau o drac i’w defnyddio ar gyfer doliau gwahanol

15   Sut i rigio a gosod traciau, pwlis a strapiau hogi, clymu clymau a defnyddio strapiau clicied a gwifrau i atal slipio ar oleddfau

16   Sut i ddefnyddio traciau, pwlis, strapiau hogi, clymau, strapiau clicied a gwifrau i rigio lifftiau fertigol

17   Sut i ddarparu brecio neu harneisiau i atal gor-redeg

18   Sut i atal perygl i eraill rhag baglu

19   Sut i atal niwed i’r trac gan eraill

20   Sut i fonitro a chynnal y trac ar gyfer holl gyfnod y gosodiad / siot

21   Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys defnydd angenrheidiol o Offer Gwarchod Personol (PPE)

22   Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

23  Pam ei bod hi mor bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG5

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Trac cymhleth, Ffilm a theledu Gweithredwr Crane, Iechyd a diogelwch