Gosod trac gwastad sylfaenol
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gosod trac ar arwynebedd gwastad ar gyfer doliau camera neu graeniau camera. Mae’n ymwneud ag asesu addasrwydd yr arwyneb ble defnyddir y trac, a’r math o drac yng nghyd-destun meintiau a phwysau’r offer sydd i’w gludo.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â gosod trac gwastad sylfaenol ar gyfer doliau camera neu graeniau camera.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Sicrhau fod unrhyw arwynebedd yn cynnal holl hyd y traciau’n ddigonol
2 Adnabod eitemau uwchlaw’r traciau ac i’r naill ochr a’r llall ohonynt a allai achosi rhwystr neu berygl
3 Asesu tebygolrwydd a natur, unrhyw amgylchiadau a allai effeithio ar sefydlogrwydd yr arwynebedd
4 Nodi’r math o lawr, y fframiau a’r byrddau a fydd yn cynnal pwysau’r traciau
5 Gosod traciau sy’n wastad a thawel
6 Defnyddio mathau o draciau a argymhellir gan gyflenwyr
7 Gosod trac mewn dull sy’n rhwystro unrhyw un rhag baglu drosto ar ddamwain
8 Sicrhau fod y trac yn ddiogel rhag niwed gan bethau’n cwympo neu gan gerbydau sy’n symud
9 Gwirio nad oes unrhyw geblau’n mynd i atal symudiad y doli
10 Gosod unrhyw derfynau diwedd trac angenrheidiol
11 Monitro a chynnal traciau ar gyfer holl gyfnod y gosodiad / siot
12 Symud a gosod traciau yn unol â gweithdrefnau trin â llaw
13 Sicrhau a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Cyfeiriad ac ongl y siotiau a llwybr unrhyw ddigwydd
2 Yr amser sydd ar gael i adeiladu
3 Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas galw ar arbenigwyr eraill
4 Sut i adeiladu a chynnal trac gwastad, tawel, waeth beth fo’r arwyneb
5 Y mathau o drac i’w defnyddio ar gyfer doliau gwahanol
6 Deddfwriaeth berthnasol, arweiniad ac arfer orau’r diwydiant
7 Sut i gynhyrchu asesiadau risg ar gyfer yr hunan ac eraill
8 O ble i gael gwybodaeth am leoliad y trac a’r hyd sydd ei angen
9 Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
10 Dulliau adeiladu ar gyfer mathau perthnasol o loriau, fframiau a byrddau
11 Sut i gael gafael rigwyr arbenigol i osod unrhyw ddeciau angenrheidiol ar gyfer traciau a phryd y mae’n addas eu defnyddio
12 Sut i ddarparu brecio neu harneisiau i atal gor-redeg
13 Sut i atal perygl i eraill rhag baglu
14 Sut i atal niwed i’r trac gan eraill
15 Sut i warchod arwynebedd bregus rhag niwed
16 Sut i fonitro a chynnal y trac ar gyfer holl gyfnod y gosodiad / siot
17 Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys defnydd angenrheidiol o Offer Gwarchod Personol (PPE)
18 Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
19 Pam ei bod hi mor bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill