Rigio mowntiau statig ar gyfer cynyrchiadau
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio mowntiau statig ar gyfer cynhyrchiad. Mae’n ymwneud â dethol y mownt camera cywir ar gyfer pwysau a chydbwysedd y camera ac ar gyfer anghenion cynhyrchu’r siot.
Mae’n ymwneud â dethol a chydosod, neu baratoi, mowntiad stiwdio neu leoliad addas, gan ddwyn i ystyriaeth fesuriadau a phwysau’r camera a ddewiswyd ac unrhyw ategolion camera ychwanegol, er mwyn cyflawni gofynion artistig, gweithredol a thechnegol y siot neu’r siotiau.
Mae’r Safon hwn ar
gyfer unrhyw un sy’n rigio mowntiau statig ar gyfer cynhyrchiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Dewis mowntiau sy’n dwyn i ystyriaeth bwysau a chydbwysedd y camerâu
2 Cydosod mowntiau statig mewn dulliau sy’n caniatáu ar gyfer gwendidau mewn arwynebeddau ble mae’r mowntiau’n cael eu gosod
3 Gosod mowntiau yn y lleoliadau ble mae’u hangen
4 Lefelu mowntiau drwy 360º pan fydd angen a sicrhau eu bod yn gytbwys
5 Adnabod a gwirio fod pob dyfais gloi yn weithredol, yn ei lle ac yn gweithio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
6 Cydosod mowntiau yn y drefn a nodwyd er mwyn osgoi niwed
7 Cydosod mowntiau mewn ffyrdd na fydd yn peryglu’r hunan na phobl eraill
8 Adrodd am unrhyw beth sy’n rhwystro cydosod cywir a diogel, gan ddefnyddio gweithdrefnau adrodd nôl y cynhyrchiad
9 Rigio rhaffau, gwifrau, strapiau clicied a strapiau hogi sy’n cadw’r camerâu’n sefydlog wrth iddynt weithio ar uchder neu mewn amodau ansefydlog
10 Gwirio fod mowntiau’n ddiogel pan fydd mowntiau statig wedi’u gadael heb neb yn gofalu amdanynt neu mewn amodau tywydd anffafriol
11 Darparu cysgod amgylcheddol sy’n ddigonol ac yn ddiogel ar gyfer offer a gweithredwyr
12 Rigio mowntiau statig yn unol â gweithdrefnau trin â llaw
13 Gwirio pwyseddau a gwylio llwythi gweithio diogel ar gyfer cydrannau neu fowntiau sy’n defnyddio nwy neu hydroleg i’w gweithredu
14 Sicrhau a diogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 O ble i gael gwybodaeth am bwysau a chydbwysedd camerâu
2 Swyddogaeth cydrannau mowntiau statig gan gynnwys trybeddau, pedestalau neu gymhorthion dyrchafedig ac ategolion, a threfn benodedig eu cydosod
3 Darpariaeth arbennig a all wrthbwyso diffygion yn yr arwynebedd
4 Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas galw ar arbenigwyr eraill
5 Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
6 Y lleoliadau sydd eu hangen ar gyfer mowntiau
7 Gweithdrefnau cywir ar gyfer lefelu a chydbwyso mowntiau
8 Sut i wirio fod dyfeisiadau cloi’n gweithio’n gywir a bod yr holl adeiladwaith yn ddiogel
9 Sut i wneud y cydosod gan roi ystyriaeth addas i ddiogelwch yr hunan ac eraill
10 Gweithdrefnau adrodd nôl y cynhyrchiad a sut i adnabod namau
11 Diogelwch amgylcheddol addas a sut i’w roi’n sownd
12 Sut i wirio fod camera ac ategolion yn ddiogel wrth weithio ar uchder neu mewn amgylchiadau ansefydlog
13 Sut i sicrhau’r rig pan fydd wedi cael ei adael heb ei oruchwylio neu mewn amodau tywydd anffafriol
14 Pryd a sut i gynnal asesiad risg trin â llaw
15 Sut i sicrhau fod unrhyw rannau o’r mowntiau sydd o dan bwysau nwy neu hydroleg yn ddiogel
16 Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys Offer Diogelwch Personol (PPE)
17 Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
18 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill