Cael a dychwelyd offer grip
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gallu dewis a chael gafael ar offer, deunyddiau a nwyddau traul grip addas.
Mae’n ymwneud â dethol yr offer cywir ar gyfer cyfnod saethu penodol, ei wirio pan fydd yn cael ei gyflenwi, sicrhau ei fod yn perfformio yn ôl y disgwyl, delio ag unrhyw broblemau a’i ddychwelyd at y cyflenwyr pan na fydd mo’i angen mwyach. Bydd angen i chi ddilyn holl reoliadau diogelwch ac arferion gweithio’r diwydiant wrth gaffael a dychwelyd yr offer.
Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â chael a dychwelyd offer grip.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Dewis offer sy’n addas ar gyfer y cynhyrchiad
2 Dewis deunyddiau neu nwyddau traul sy’n cwrdd â’r gofynion grip
3 Dewis offer a deunyddiau sydd o fewn y gyllideb
4 Sicrhau fod pob offer yn cael ei ddefnyddio o fewn i’w gyfyngiadau dylunio drwy gydol y cynyrchiadau
5 Rhagweld a gweithredu i ddelio ag unrhyw broblemau gyda’r offer er mwyn peidio â pheri oedi i’r cynhyrchiad
6 Gwirio fod pob offer yn perfformio yn ôl y safon angenrheidiol
7 Cofnodi manylion pob tystysgrif diogelwch angenrheidiol mewn fformatau sy’n ofynnol ar gyfer y cynhyrchiad
8 Sicrhau fod gweithdrefnau yn eu lle i ddychwelyd yr offer i’r cyflenwyr yn ddiogel ac yn gyfan
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac arfer orau’r diwydiant
2 Y paramedrau ar gyfer awgrymu mathau o offer grip sy’n addas i’r lleoliad
3 Dulliau trin â llaw ar gyfer rigio
4 Rheoliadau Iechyd a Diogelwch addas sy’n berthnasol, a phryd i’w gorfodi.
5 Terfynau eich arbenigedd a phryd i geisio cyngor
6 Defnyddio offer trydanol yn ddiogel a ffynonellau cyngor arbenigol
7 Manteisio gwaith tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
8 Offer sydd ei angen ar gyfer gweithgaredd grip gan gynnwys unrhyw offer diogelwch
9 Atebolrwydd y cynhyrchiad o ran llogi offer trydydd parti
10 Eich cyfrifoldebau o dan gytundebau llogi trydydd parti
11 Pa offer sydd angen tystysgrifau diogelwch a sut i storio gwybodaeth amdanynt
12 Gweithdrefnau i sicrhau dychwelyd offer yn ddiogel at gyflenwyr
13 Problemau a allai effeithio ar offer trydanol
14 Arferion gweithio diogel pan fyddwch yn gweithio ger ceblau uwchben a llinellau pŵer trydan