Codi a thracio dolis camera

URN: SKSG13
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â chodi a thracio dolis camera. Gall dolis fod yn drydanol neu rai sy’n defnyddio system bwysedd. Mae’n ymwneud â deall y dull o weithredu’r offer a’r cyfyngiadau ynghlwm ag ef a dehongli anghenion y cynhyrchiad er mwyn darparu symudiadau diogel ar gyfer mowntiau’r camera.

 

Mae’n ymwneud â chyfathrebu’n glir a manwl gyda’r aelodau criw perthnasol er mwyn cyflawni atebion artistig sy’n cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1   Symud camerâu mewn symudiad llyfn yn unol â gofynion y cyfarwyddwr neu weithredwr y camera ar bob achlysur
2   Amseru pob symudiad fertigol a llorweddol i siwtio
gofynion y cynhyrchiad

3   Adnabod symudiadau sydd y tu hwnt i allu’r offer, neu
a gyfyngir gan y personél sydd ar gael

4   Gweithredu dolis trydanol neu’r rheiny â systemau
pwysedd yn unol â rheoliadau diogelwch a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

5   Adrodd am gyfyngiadau wrth staff cynhyrchu perthnasol
a cheisio a chyflwyno atebion dichonadwy

6   Rhoi hysbysiad clir i bawb sy’n gweithio ynghylch
llwybr bwriedig ac uchderau gweithio

7   Gwirio fod llwybrau’n rhydd o bobl nad ydyn nhw’n
hanfodol, ceblau a rhwystrau eraill

8   Gwirio fod amodau amgylcheddol o fewn i fanylebau’r
offer

9   Cyfathrebu gyda phobl eraill mewn modd sy’n gwella
ansawdd ac effeithiolrwydd symudiadau

10 Sicrhau’r dolis ar ôl eu defnyddio yn unol â
manylebau’r gwneuthurwyr a chytuno ar bob symudiad o’r fath gyda gweithredwyr
eraill


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac arfer orau’r diwydiant

2      Sut i weithio offer tracio a chodi

3      Y gwahaniaethau mewn ymarfer wrth weithio gyda dolis trydan a rhai sy’n defnyddio systemau pwysedd

4      Ystyriaethau diogelwch wrth ddefnyddio dolis trydan a rhai sy’n defnyddio systemau pwysedd

5      Sut mae systemau pwysedd yn gweithio, eu perthnasedd a sut i’w ail-lenwi

6      Llwythi gweithio diogel, gan gynnwys sut i wrthbwyso llwythi systemau sy’n llawn hydroleg neu nwy

7      Manteision gwaith tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

8      Cyfyngiadau lleoliad, cydbwysedd ac uchder yr offer yr ydych chi’n gweithio gydag ef

9      Ble i gael gwybodaeth am ofynion y cynhyrchiad

10   Rolau staff cynhyrchu eraill a phryd y mae angen i chi gyfathrebu â nhw

11   Sut i ddiogelu offer pan nad yw ar waith

12  Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Tracio, Doliau camera, Iechyd a diogelwch