Tracio camerâu
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â symud camerâu ar hyd trac neu arwyneb addas arall. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o, ac ymateb hyfyw i, unrhyw beryglon sy’n ymwneud â thrin, symud a gosod offer trwm.
Mae’n ymwneud `â chyfathrebu’n glir a manwl gyda’r aelod criw perthnasol er mwyn cyflawni atebion artistig sy’n cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad.
Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n tracio camerâu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Symud camerâu mewn symudiad llyfn a dilyn gofynion y gweithredwr bob amser
2
Amseru symudiadau i gyd-fynd ag anghenion cynhyrchu
3
Adnabod symudiadau sydd y tu hwnt i allu’r offer neu a gyfyngir gan
y bobl sydd ar gael
4
Adrodd am gyfyngiadau i weithredwyr camera a cheisio atebion sy'n
cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad
5
Rhoi hysbysiad clir o’r llwybrau bwriedig i bob person perthnasol
6
Gwirio fod llwybrau’n rhydd o bobl nad ydyn nhw’n hanfodol, ceblau a
rhwystrau eraill
7
Cyfathrebu â phobl eraill mewn ffyrdd sy’n gwella ansawdd ac
effeithlonrwydd symudiadau
8
Symud camerâu yn unol â gweithdrefnau trin â llaw
9 Diogelu a gwarchod
offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
2 Egwyddorion gweithredu offer tracio
3 Ystyriaethau diogelwch offer tracio
4 Ble i gael gwybodaeth am lwybrau bwriedig ac anghenion cynhyrchu
5 Unrhyw symudiadau bwriedig eraill
6 Cyfyngiadau lleoli offer
7 Pryd a sut i gynnal asesiadau risg trin â llaw
8 Gweithdrefnau trin â llaw gan gynnwys yr Offer Gwarchod Personol (PPE) sydd ei angen
9 Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
10 Sut i sicrhau offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
11 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill