Rigio ceir a threlyrs tracio
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio cerbyd neu drelar (llwyfan teithiol). Mae’n ymwneud â dethol y math cywir o fownt camera, craen neu fraich jib, a gosod y mownt cyfan heb achosi unrhyw niwed na pheryglu eraill.
Mae’n gofyn am adnabod pob perygl ac amgylchiad amgylcheddol a allai effeithio ar y gwaith, cynhyrchu asesiad risg a rhoi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw anghenion arbennig.
Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio ceir neu drelars tracio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Gwneud yn siŵr fod cyfanswm pwysau’r holl offer a phobl yn llai na chapasiti pwysau plât neu ‘drên’ cerbydau neu drelars
2 Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau lleoliadau ac onglau siotiau a llwybrau a chyflymder bwriedig cerbydau neu drelars
3 Teithio ar hyd y llwybr bwriedig ar adeg addas i adnabod addasrwydd yr arwynebedd y gyrrir drosto a natur unrhyw rwystrau neu beryglon
4 Cadarnhau lleoliadau, cyflymder a chyfeiriad unrhyw symudiadau eraill gyda staff cynhyrchu addas
5 Cynhyrchu asesiadau risg a chyfathrebu canfyddiadau i bob person perthnasol
6 Cadarnhau bod pob prop ac offer arall a osodwyd yn ddiogel ac yn sownd yn unol â rheoliadau, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
7 Adeiladu a lleoli rigiau a rhoi camerâu ac ategolion yn sownd heb achosi niwed i gerbydau, trelars nac anaf i bobl
8 Defnyddio deunyddiau, rhaffau, clymau neu strapiau hogi er mwyn atal unrhyw symud diangen
9 Gwirio fod rigiau’n cwrdd â gofynion diogelwch yn achos brecio mewn argyfwng
10 Darparu harneisiau diogelwch sydd o fewn dyddiad ar gyfer pob personél cynhyrchu addas
11 Cyfarwyddo pobl berthnasol ynghylch sut i ddefnyddio harneisiau diogelwch
12 Darparu gwarchodaeth amgylcheddol ar gyfer offer a phobl, sy’n ddiogel a sownd, yn unol â deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
13 Cael pob caniatâd a chliriad arbennig gan ffynonellau perthnasol
14 Cynghori staff cynhyrchu perthnasol pan fydd angen caniatâd arbennig
15 Rhoi gwybod i staff cynhyrchu addas am unrhyw rwystr neu amgylchiad sy’n effeithio ar y gallu i weithio’r rig yn ddiogel
16 Dangos fod rigiau’n ddiogel ar gyfer pellter a thaith lawn eu defnydd bwriedig
17 Cyfathrebu gwybodaeth berthnasol i yrwyr ar adegau addas i’w galluogi i weithredu’r cerbydau yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
18 Sicrhau a diogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant
2 Sut i gyfrifo cyfanswm pwysau unrhyw offer technegol, propiau neu bobl
3 Ffynonellau gwybodaeth ynghylch llwybrau arfaethedig a chyflymder cerbydau neu drelars a’u hoblygiadau i rigiau a phobl
4 Natur yr arwynebedd y gyrrir arno, ac effaith hynny ar rigiau a phobl
5 Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill
6 Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
7 Sut i weithio ar y cyd â gyrwyr a phryd a sut i gyfathrebu gyda nhw
8 Sut i adnabod rhwystrau neu beryglon posib o fewn i gylch gweithredu rigiau
9 Ffynonellau gwybodaeth am niferoedd a lleoliadau staff cynhyrchu mewn rigiau neu arnynt
10 Ffynonellau gwybodaeth am safleoedd bwriedig ac unrhyw ddigwyddiadau ategol neu agos
11 Sut i adeiladu rigiau heb achosi niwed i gerbydau na threlars, na niwed i bobl
12 Y mathau gwahanol o ddeunyddiau i ddarparu sadrwydd a diogelwch ychwanegol
13 Mesurau i’w dilyn i sicrhau fod yr holl bobl yn ddiogel
14 Dyfeisiadau i’w defnyddio i warchod offer camera rhag niwed allanol
15 Caniatâd arbennig y gellir bod angen ei gael pan fydd angen defnyddio cerbydau ar y briffordd gyhoeddus
16 Pryd i roi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw rwystr i weithredu diogel
17 Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio
18 Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill
19 Yr Offer Gwarchod Personol (PPE) angenrheidiol