Dehongli gwybodaeth am gynhyrchiad er mwyn cynllunio gweithgaredd y grip
Trosolwg
Mae’r Safon hwn yn ymwneud â’ch gallu i ddehongli gwybodaeth am gynhyrchiad a chynllunio gweithgaredd y grip. Efallai y bydd gwybodaeth am gynhyrchiad ar ffurf sgriptiau, trefniadau saethu, rhagddelweddiaethu, delweddiaethu technegol, gwybodaeth sy’n deillio o ymweliadau â safleoedd (recces) a dogfennau cynhyrchu eraill. Bydd angen i chi gynhyrchu eich cynlluniau mewn fformatau derbyniol, gan ymgynghori ag eraill pan fo’n addas.
Mae’r Safon hwn ar eich cyfer chi os ydych chi’n dehongli gwybodaeth am gynhyrchiad er mwyn cynllunio gweithgaredd grip.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1 Cael gafael ar sgriptiau, rhagddelweddiaethu, delweddiaethu technegol a threfniadau saethu cyn cynllunio gweithgaredd y grip
2 Dadansoddi sgriptiau a threfniadau saethu er mwyn adnabod gofynion gweithgaredd grip
3 Defnyddio gwybodaeth berthnasol o ymweliadau safle a delweddiaethu i adnabod gofynion a chyfyngiadau technegol unrhyw weithgaredd grip
4 Egluro unrhyw amwysedd yn eich dehongliad ynghylch gofynion grip gyda’r bobl addas
5 Rhestru a nodi beth sydd ei angen i gyflawni gweithgaredd grip i gwrdd ag anghenion cynhyrchu
6 Cofnodi cynllun gweithgaredd grip mewn fformat sy’n cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad
7 Dogfennu pob agwedd o reoli risg sy’n gysylltiedig â’ch gwaith mewn fformatau gofynnol, gan ddarparu hyn i eraill pan fo gofyn
8 Tynnu sylw pennaeth pob adran berthnasol at unrhyw agwedd o’ch gwaith ar gynhyrchiad a allai gyflwyno risg neu berygl i’w hadran
9 Cadarnhau gyda’r bobl berthnasol y gellir cyflawni gweithgaredd grip a gynlluniwyd yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1 Fformat sgript a sut i ddarllen un i adnabod gweithgaredd grip
2 Sut i gael mynediad i ragddelweddiaethu a delweddiaethu technegol ar gyfer cynyrchiadau
3 Sut i ddehongli rhagddelweddiaethu a delweddiaethu technegol er mwyn adnabod gofynion grip
4 Sut i gael gafael ar drefniadau saethu, a’u dehongli, wrth gynllunio gweithgaredd grip
5 Sut y mae gwybodaeth o leoliadau (recces technegol) yn gallu effeithio ar ofynion grip
6 Sut i gael gwybodaeth am leoliad(au) pan nad oeddech chi’n gallu talu ymweliad eich hun
7 Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill
8 Gofynion cynhyrchu i’w hystyried wrth gynllunio gweithgaredd grip gan gynnwys diogelwch a lleoliad
9 Sut i gysylltu â phersonél cynhyrchu perthnasol i sicrhau fod gweithgaredd grip a gynlluniwyd yn cwrdd â gofynion
10 Cyllidebau ac amserlenni cynhyrchu a sut y mae’r rhain yn effeithio ar weithgaredd grip
11 Y rhyngberthynas rhwng adrannau eraill a gweithgaredd grip
12 Sut i weithio mewn cydweithrediad ag adrannau eraill
13 Prosesau a dulliau rheoli asesu risg