Defnyddio golygu i lunio stori
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r golygydd yn defnyddio, dewis neu fireinio'r cynnwys maen nhw wedi'i gaffael i greu neu lunio'r stori y mae'r cleient yn ei ddychmygu.
Mae'n ymwneud â chyfleu'r stori a'r negeseuon allweddol ynghyd ag adlewyrchu'r nodweddion y mae'r cleient yn bwriadu eu defnyddio.
Mae'r safon ar gyfer y rolau canlynol: golygydd, golygydd cynorthwyol, uwch olygydd a golygydd iau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydweithio'n agos gyda'r cleient i ddeall nodau artistig neu gyfathrebu'r prosiect
- awgrymu ffyrdd y gallai golygu helpu i gyfleu'r stori a'r negeseuon allweddol
- awgrymu ffyrdd y gallai golygu helpu adlewrychu'r nodweddion y mae'r cleient yn bwriadu eu defnyddio
- datblygu syniadau newydd sy'n helpu gydag adrodd y stori neu ddatrys unrhyw broblem
- golygu dilyniant y deunydd i ail-drefnu neu lunio'r stori
- gwerthuso'r saethiadau a'r golygfeydd o ran eu rôl yn y stori
- gwneud dyfarniadau technegol ynghylch ansawdd y cynnwys
- torri a threfnu saethiadau a golygfeydd i gyfleu cyflymder a rhythm, effaith, cyfeiriad y stori, awyrgylch a thyndra i ymgysylltu'r gynulleidfa gyda'r stori
- defnyddio'r adnoddau golygu i gyflawni'r nodau creadigol
- ymgysylltu gyda chydweithwyr i adnabod a chomisiynu deunyddiau ac effeithiau ychwanegol i ddatrys problemau neu wella'r cynnwys
- gweithio'n greadigol ac yn ddyfeisgar i fodloni'r cyfarwyddyd a chydymffurfio gyda'r canllawiau golygyddol a moesegol
cydweithio gyda'r cleient i wirio ac addasu'ch penderfyniadau fel bod y canlyniad yn adlewyrchu dull cydweithrediadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut gallai'r dewis o lwyfannau a sianeli dosbarthu ynghyd â chyd-destun y stori effeithio ar waith golygu
sut caiff penderfyniadau golygu eu heffeithio pan fo'r deunydd yn rhan o gyfres neu pan mae’n bosibl y gallai gael ei ail-olygu ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- y ffynonellau gwybodaeth am anghenion y cleient, y gynulleidfa a'r cyd-destun
- sut i asesu ansawdd y deunydd o gymharu â'r safonau artistig disgwyliedig
- arddull, dyheadau a geirfa artistig y cleient
- y ffyrdd caiff yr awyrgylch, y stori, yr ystyr a'r wybodaeth eu cyfleu mewn gwahanol genres
- beth sy'n briodol ar gyfer arddull y cynhyrchiad a sut i sicrhau bod yr awyrgylch yn adlewyrchu'r cynnwys
- sut i ragweld llif y stori a safbwynt posib y gynulleidfa am y stori
- y cyfraniadau posib i brosiect gan gydweithwyr ôl gynhyrchiad
- sut i adrodd stori a phryd gallai ddialog amgen gynorthwyo'r stori
y technegau, y confensiynau a'r cyfarpar ar gyfer torri
sut gellir torri fideos mewn gwahanol ffyrdd er mwyn cyflawni gwahanol ddeilliannau
- sut i gyflwyno syniadau a derbyn a chynnal perthnasau pan gaiff syniadau a gwaith eu barnu neu phan fo'r cyfarwyddyd yn newid
- pryd a sut i ddefnyddio cyfarpar golygu i wella'r stori
y safonau gwylio cyfredol a'r safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol y gellir eu cyflawni ynghyd â mynegiannau o ran ymarfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys