Cynnal prosiectau golygu yn unol â chyfarwyddyd

URN: SKSE1
Sectorau Busnes (Suites): Golygu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dehongli'r cyfarwyddyd i gyflawni prosiect golygu. Mae hefyd yn ymwneud â deall eich rôl ar bob cynhyrchiad a sut mae'n berthnasol i'r rolau a'r adrannau eraill. Yn ogystal, mae'n ymwneud â deall gofynion technegol eich gwaith.

Mae'r safon hon ar gyfer y rolau canlynol: golygydd, uwch olygydd a golygydd iau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dehongli'r cyfarwyddyd a chadarnhau eich gwaith gofynnol gyda'r bobl berthnasol
  2. ymchwilio a chaffael y wybodaeth angenrheidiol i chi allu cyflawni'ch gwaith yn effeithiol
  3. cytuno ar amserlen ac amser, gan gadw at y gyllideb, ar gyfer y golygu sy'n cydbwyso anghenion y cleient a'r amser i gynhyrchu gwaith o safon briodol 
  4. rhoi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â chynnydd, ansawdd neu ddulliau gwaith sy'n effeithio ar y llif gwaith ac sy'n fodd i eraill ddatrys y problemau
  5. rheoli'ch llwyth gwaith eich hun a sicrhau eich bod yn ei gyflawni erbyn y terfynau amser y cytunwyd arnyn nhw
  6. gweithio mewn ffordd drefnus fel bod modd i eraill fanteisio ar eich gwaith pan fo'n briodol
  7. gweithredu systemau a'r cyfarpar gan ddatrys unrhyw broblemau o ddydd i ddydd a allai godi
  8. datrys problemau, egluro'r cyfyngiadau a mynd i'r afael gyda phroblemau'r cyfryngau byddwch yn gweithio gyda nhw
  9. ystyried ac awgrymu dewisiadau hyfyw ac amgen i wella'r golygiad
  10. gweithredu'n dilyn derbyn adborth gan adnabod sut i wneud y newidiadau gofynnol a derbyn penderfyniadau creadigol pobl eraill
  11. darparu manylion ynghylch yr hawlfraint ynghlwm â delweddau neu sain i'r bobl berthnasol pan fo'n briodol
  12. hwyluso trafodaeth rhwng gwahanol farnau creadigol er mwyn helpu ffurfio consensws
  13. cyflawni'r cynnwys wedi'i olygu'n unol â'r cyfarwyddyd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i ddehongli cyfarwyddyd
  2. yr arddulliau golygu ar gyfer gwahanol genres
  3. sut i reoli'ch amser i fodloni amserlen y cynhyrchiad
  4. eich sefyllfa o ran y llif gwaith yn dilyn y cynhyrchiad a'r effaith ar eraill yn y broses
  5. cyfrifoldebau eich rol chi a sut mae eich gwaith yn berthnasol i ac yn effeithio ar waith pobl eraill
  6. y gwahanol rolau ynghlwm â'r cynyrchiadau rydych chi'n gweithio arnyn nhw, a phwy ddylech chi gyfathrebu gyda nhw ynghylch agweddau o'ch gwaith
  7. pwy sy'n gwneud penderfyniadau golygyddol a sut i gynnal perthnasau gyda nhw
  8. sut i gyfathrebu'n effeithiol a chyflwyno'ch safbwyntiau
  9. sut i barhau i fod yn llawn cymhelliant wedi ichi dderbyn adborth 
  10. sut i ddehongli safonau technegol y gellir eu cyflawni sy'n ofynnol er mwyn bodloni'r cyfarwyddyd
  11. sut i ddatrys problemau a mynd i'r afael â gwrthdaro wrth ichi olygu cynnwys
  12. sut i gydymffurfio gyda deddfau a rheoliadau sy'n berthnasol i gynnwys a chanllawiau golygyddol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSE1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyflawni; golygu; prosiectau; cyfarwyddyd; rôl; cynhyrchiad; adrannau; technegol; gofynion