Cyflawni allbynnau cynhyrchu

URN: SKSDP9
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflawni allbynnau cynhyrchu yn unol â’r cytundebau cyflawni. Mae’n ymwneud â gwirio gofynion, gwirio bod systemau’n gyfaddas, cynhyrchu allbynnau ar ffurfiau y cytunwyd arnyn nhw gyda metadata priodol a chyflawni allbynnau o fewn y graddfeydd amser gofynnol.

Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â chyflawni allbynnau cynhyrchu gan ddilyn y broses ôl-gynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. caffael fersiynau cyfredol a therfynol o gytundebau i’w dosbarthu neu eu cyflawni gan ffynonellau dibynadwy
  2. adnabod gofynion ar gyfer atchweliad sy’n cydymffurfio gyda’r cytundebau
  3. cytuno ar ffurfiau a gofynion metadata sy’n cydymffurfio gyda’r cytundebau cyn dechrau ar y gwaith
  4. defnyddio gwybodaeth ddibynadwy er mwyn gwirio bod y systemau’n cyd-fynd gyda systemau dosbarthwyr / darlledwyr
  5. hysbysu’r bobl berthnasol o’r graddfeydd amser o ran cyflawni yn ystod pob cam
  6. cyflawni allbynnau cynhyrchu yn unol â’r cytundebau cyflawni
  7. cynhyrchu allbynnau yn unol â safonau'r diwydiant sy’n briodol ar gyfer y diriogaeth a gyflenwir
  8. cyflawni allbynnau i ddosbarthwyr/darlledwyr gan ddefnyddio systemau cymwys
  9. cyflawni allbynnau’n unol â’r graddfeydd amser disgwyliedig

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1.  ble i gaffael cytundebau dosbarthu neu gyflawni cyfredol
2.  sut i ddehongli’r disgwyliadau a’r gofynion technegol sydd wedi’u crybwyll yn y cytundebau
3.  y safonau gwylio cyfredol, safonau darlledu technegol a’r safonau cyflawniad proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol ynghyd â’r mynegiant o arfer gorau ar gyfer gwahanol lwyfannau
4.  y systemau cyflawni a ddefnyddir gan ddosbarthwyr a darlledwyr
5.  problemau cyffredin a allai godi wrth anfon cyflawniadau at ddosbarthwyr a darlledwyr a sut i fynd i’r afael â nhw
6.  y ffurfiau sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol diriogaethau
7.  egwyddorion codio a thrawsgodio
8.  pwysigrwydd metadata a sut i’w reoli drwy gydol y llif gwaith cynhyrchu
9.  sut i ddefnyddio systemau cyflawni cwmwl a systemau cyflawni eraill
10.  sut i gyfathrebu gyda dosbarthwyr, darlledwyr, cynhyrchwyr a thai cyfleusterau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSDP09

Galwedigaethau Perthnasol

Golygydd, Rheolwyr Cynhyrchu, Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Technegydd Delweddu Digidol, Gweithrediadau Data, Cynorthwyydd Sain, Golygydd Cynorthwyol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynhyrchu; metadata; ôl-gynhyrchu; ffurfiau; allbynnau cynhyrchu; ffilm; Teledu;