Gwirio cydymffurfiaeth gyda safonau technegol

URN: SKSDP8
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud ag adolygu ansawdd technegol allbynnau gweledol a sain a chyfeirio gwybodaeth cydymffurfio’n ôl i’r bobl berthnasol.

Mae hwn yn wiriad technegol yn hytrach na rhan o’r broses greadigol. Mae’n ymwneud ag adnabod a thrin a thrafod atgyweiriadau posibl a chymeradwyo cynnyrch terfynol unwaith y byddan nhw wedi cydymffurfio â’r safonau. Gall fod yn berthnasol i’r fersiwn meistr a’r holl fersiynau neu ddeilliannau eraill.

Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â’r gwaith o wirio cydymffurfiaeth gyda safonau technegol yn ystod cynhyrchu neu ar ôl y cyfnod ôl gynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwerthuso dichonolrwydd a chost disgwyliadau neu anghenion y cleient o gymharu â’r wybodaeth ddibynadwy
  2. gwerthuso ansawdd gweledol a sain yn erbyn y manylebau cyflawni cyfryngau sydd wedi’u crybwyll yn y llif gwaith
  3. llunio dogfennau eglur sy’n nodi’r atgyweiriadau posibl
  4. cyfeirio gwybodaeth cydymffurfio’n ôl at y bobl berthnasol gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu cymeradwy
  5. cynnig cyngor eglur ynghylch y goblygiadau a’r cyfyngiadau o ran y gyllideb
  6. dod i gytundeb gyda’r bobl berthnasol ynghylch beth ellir ei newid, yr ansawdd a ddisgwylir a’r gyllideb a’r graddfeydd amser sydd ar gael
  7. canfod cyfaddawdau sy’n dderbyniol i’r cleientiaid pan fo’n anodd unioni agweddau, neu pan nad oes modd ariannu’r gwaith unioni
  8. cynnig newidiadau a all sicrhau bod y prosiect cyfan yn fwy ymarferol yn dechnegol neu’n fasnachol
  9. cymeradwyo’r cynnyrch terfynol gan ddefnyddio dogfennau penodedig unwaith y byddan nhw wedi cydymffurfio gyda’r safonau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. disgwyliadau a gofynion technegol y llif gwaith
  2. y safonau gwylio cyfredol, safonau darlledu technegol a’r safonau cyflawniad proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol ynghyd â mynegiant o arfer gorau ar gyfer gwahanol lwyfannau
  3. y prosesau asesu ansawdd ar gyfer fideo a sain sy’n bodloni’r safonau technegol a ddisgwylir
  4. y feddalwedd sydd ar gael i adnabod problemau technegol a’i gyfyngiadau
  5. y manylebau ffeil a’r confensiynau enwi ar gyfer y prosiect
  6. sut i adnabod problemau gyda graddio, lliw, picselau marw, sain yn diffodd, sain a’u hachosion
  7. sut i werthuso a ddylid cyfeirio gwybodaeth cydymffurfio at gynhyrchwyr neu’r rheiny sydd ynghlwm â’r broses ôl-gynhyrchu
  8. sut i adnabod problemau technegol a fyddai’n anodd neu’n ddrud i fynd i’r afael â nhw
  9. y goblygiadau masnachol o ran pwy sydd am dalu am y gwaith unioni
  10. sut i gyfathrebu’n eglur a dod i gytundeb gyda chleientiaid ac aelodau eraill o’ch tîm
  11. sut mae gwylwyr yn derbyn gwybodaeth weledol a sain
  12. y problemau a allai godi yn sgil trawsgodio niferus a’r ffurfiau a ddylid eu defnyddio i’w hosgoi
  13. egwyddorion rheoli metadata a’i bwysigrwydd
  14. egwyddorion cyflawniadau safonol a beth ddylid ei ystyried wrth ymwneud gyda chyflawniadau ansafonol
  15. egwyddorion ffurfiau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
  16. y cyfraniadau a ellir eu gwneud i ansawdd technegol gan y broses ôl-gynhyrchu
  17. y dogfennau a ddylid eu defnyddio i nodi atgyweiriadau a chymeradwyo cynnyrch terfynol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSDP08

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Effeithiau Gweledol, Golygydd, Rheolwyr Cynhyrchu, Cynhyrchydd Llinell, Goruchwyliwr Ôl-gynhyrchu, Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Technegydd Delweddu Digidol, Gweithrediadau Data, Cynorthwyydd Sain, Cydlynydd Ôl-gynhyrchu

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydymffurfiaeth; safonau technegol; ansawdd; fideo; sain; ôl-gynhyrchu; ffilm; Teledu;