Rheoli cadw, dileu a gwaredu gwybodaeth cynhyrchu sydd wedi’i harchifo
URN: SKSDP7
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a rhoi system ar waith ar gyfer dileu a gwaredu cyfryngau, asedau a gwybodaeth cynhyrchu eraill sydd wedi’u harchifo.
Mae’n ymwneud â phenderfynu pa gyfryngau, asedau a gwybodaeth am brosiectau eraill dylid eu cadw ac am ba hyd, datblygu confensiynau enwi ac ati.
Mae hefyd yn ymwneud â gwirio fod data sydd wedi’i archifo yn cael ei gadw’n briodol a dileu a gwaredu data sydd wedi’i archifo pan fo’n briodol.
Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm ag archifo cyfryngau, asedau a gwybodaeth cynhyrchu eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cytuno gyda chleientiaid ynghylch pa ddata a gwybodaeth prosiect dylid ei gadw ac am ba hyd a chofnodi hyn yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- cytuno gyda’r cleient pa ddewis storio i’w ddefnyddio gan ystyried y goblygiadau o ran cost
- datblygu proses a llwybr archwilio clir i reoli cadw, dileu a gwaredu gwybodaeth sydd wedi’i harchifo yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad a safonau’r diwydiant
- ymgynghori gyda’r bobl berthnasol ynghylch addasrwydd y broses sydd wedi’i datblygu
- trefnu awdurdodau gwirio gyda’r bobl briodol ar gyfer pob cam o’r broses storio, dileu a gwaredu
- rheoli cadw, dileu a gwaredu cyfryngau a gwybodaeth cynhyrchu eraill yn unol â’r broses y cytunwyd arni a gofynion y cleient
- gwirio gwaith dileu a gwaredu gydag awdurdodau priodol cyn bwrw iddi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y polisïau a’r gweithdrefnau sydd ar waith sy’n berthnasol i storio, archifo, gwaredu a dileu
- y gwahaniaeth rhwng archifo a chadw gwybodaeth wrth gefn, ac ystyr y gwahanol lefelau o archifo
- y gofynion storio ar gyfer yr wybodaeth rydych chi’n ymdrin â hi
- yr ystod o wybodaeth cynhyrchu sydd ynghlwm gan gynnwys llifoedd gwaith, gwybodaeth cast ac unrhyw wybodaeth cynhyrchu arall
- pwy sydd ag awdurdod dros a phwy sydd angen eu hysbysu am ddileu a gwaredu
- y llwybr archwilio angenrheidiol sy’n gysylltiedig â gofynion y cleient a chynnwys cytundebau gyda chleientiaid ynghylch rheoli asedau ac awdurdodi ar gyfer dileu a gwaredu
- y gofynion yswiriant o ran asedau gan gynnwys mannau storio lluosog ac adfer ar ôl trychineb
- y systemau gellir eu defnyddio ar gyfer cadw gwybodaeth wrth gefn, storio ac archifo, gan gynnwys storio data yn y cwmwl a chyfleoli, a manteision ac anfanteision pob un
- y goblygiadau cost sydd ynghlwm ag opsiynau storio gan gynnwys cyfraddau adfer
- y mathau o storfeydd haenog a’r mynediad sy’n ofynnol gan gynnwys uniongyrchol/agos ac archif/dwfn
- pwysigrwydd metadata a goblygiadau cam-reoli ar ddata
- y cynlluniau adfer ar ôl trychineb fel sy’n ofynnol gan yswirwyr fel arfer
- safonau’r diwydiant a’r argymhellion ynghylch arfer ar gyfer storio ac archifo
- y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â chadw a gwaredu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSDP07
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Effeithiau Gweledol, Golygydd, Goruchwyliwr Ôl-gynhyrchu, Technegydd Delweddu Digidol, Gweithrediadau Data, Cynorthwyydd Sain, Golygydd Cynorthwyol, Cydlynydd Ôl-gynhyrchu, Gwasanaethau Technegol a Dosrannu (Ffilm a Theledu)
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cadw; dileu; gwaredu; archifo; cyfryngau; data; cynhyrchu; asedau; storio; ffilm; Teledu;