Rhoi diweddariadau ar waith a datrys problemau gyda systemau cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu

URN: SKSDP6
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â rhoi diweddariadau sylfaenol ar waith ar gyfer meddalwedd a datrys problemau gyda systemau a meddalwedd rydych chi a’ch cydweithwyr yn eu hwynebu. Mae’n ymwneud hefyd ag adnabod pan fo angen uwchraddio, gweithredu’r uwchraddiadau a’u profi ac atgyfeirio at arbenigwyr TG pan fo’n briodol.

Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm ag asedau yn ystod cynhyrchu neu ôl-gynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. mynd i’r afael â phroblemau mewn camau rhesymegol er mwyn canfod eu hachos
  2. atgyweirio problemau sydd o fewn eich gallu chi
  3. atgyfeirio at arbenigwyr technegol perthnasol pan fo problemau y tu hwnt i’ch gallu
  4. adnabod pan na fyddai cyfarpar a meddalwedd yn bodloni’r gofynion llif gwaith gan ddefnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy
  5. adnabod uwchraddiadau gan gynnwys ‘patches’ sy’n ymdrin â phroblemau sy’n dod i’r amlwg
  6. adnabod cyfaddasrwydd meddalwedd a chanlyniadau eraill diweddariadau ar brosiectau cyfredol ac arfaethedig ac mewn mannau eraill yn y system
  7. cyflawni diweddariadau a gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i gynllunio ar adegau a fyddai’n amharu cyn lleied â phosibl ar y gwaith
  8. rhoi diweddariadau ar waith yn unol â chyfarwyddiadau’r diweddariadau
  9. rhoi amcangyfrifon realistig i gydweithwyr o hyd yr amser segur a rhoi rhybudd ar unwaith os oes posibilrwydd i’r cyfnod bara’n hirach
  10. gwirio bod y diweddariadau sydd wedi’u rhoi ar waith yn effeithiol yn ôl y disgwyl
  11. hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol o unrhyw newidiadau sydd wedi’u gweithredu a beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yn wahanol yn sgil y diweddariadau
  12. cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a’r protocolau iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gwahanol weithrediadau sy’n digwydd ynghlwm â llif gwaith cynhyrchu a’r math o offer sydd eu hangen arnyn nhw
  2. disgwyliadau a gofynion technegol y llif gwaith
  3. sut i ddehongli diagramau system/llif gwaith a siartiau llif
  4. y safonau gwylio cyfredol, safonau darlledu technegol a’r  safonau cyflawniad proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol ynghyd â’r mynegiant o arfer gorau ar gyfer gwahanol lwyfannau
  5. sut mae offer a meddalwedd a ddefnyddir yn y sefydliad yn gweithio, ei wendidau a namau cyffredin a ffyrdd i’w datrys
  6. y rheoliadau, y ddeddfwriaeth a’r protocolau iechyd a diogelwch perthnasol
  7. egwyddorion cyflawniadau safonol a beth ddylid dwyn i ystyriaeth wrth weithio gyda chyflawniadau ansafonol
  8. egwyddorion ffurfiau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
  9. sut i gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau
  10. pam ei bod hi’n bwysig meithrin perthnasau gyda gwneuthurwyr
  11. sut i gysylltu gydag arbenigwyr technegol
  12. sut i adnabod manteision diweddariad neu ‘patch’ a gwerthuso’r gost a’r manteision
  13. y broses ar gyfer cymeradwyo diweddariad neu ‘patch’
  14. pam ei bod hi’n bwysig gwirio gwybodaeth gwneuthurwyr ynghylch effaith diweddariadau ac atgyweiriadau
  15. sut i brofi diweddariadau a ‘patches’ ar gyfer ymarferoldeb a sut i ganiatáu digon o amser i wneud hynny
  16. pryd dylid profi ‘patches’ oddi ar y we cyn eu rhyddhau i’r amgylchedd byw
  17. ble i ganfod gwybodaeth am ddatblygiadau o ran offer a meddalwedd cynhyrchu

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSDP06

Galwedigaethau Perthnasol

Golygydd, Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithrediadau Data, Cynorthwyydd Sain, Golygydd Cynorthwyol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

meddalwedd; datrys problemau; systemau; asedau; cyfryngau; cynhyrchu; ôl-gynhyrchu; ffilm; Teledu;