Trin asedau er mwyn bodloni gofynion y llif gwaith cynhyrchu
URN: SKSDP5
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gweithio gydag asedau a’u rhoi yn y ffurfiau sy’n ofynnol ar gyfer y gwahanol gamau cynhyrchu. Mae’n ymwneud â thrawsgodio, defnyddio meddalwedd trosglwyddo ffeiliau, rheoli oedi ac ymwybyddiaeth o effeithiau codec a chyfraddau cywasgu. Mae angen canolbwyntio’n barhaus ar y llif gwaith cynhyrchu ac effaith gwahanol ffurfiau ar ansawdd cyfredol ac yn y dyfodol, gan gynnwys osgoi problemau sydd wedi’u hachosi gan drawsgodio niferus.
Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â fformatio asedau yn ystod y broses ôl-gynhyrchu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy i adnabod y gofynion ar gyfer yr asedau rydych yn ymwneud â nhw
- trawsgodio asedau i mewn i ffurfiau a fydd yn bodloni’r gofynion ansawdd ar gyfer cyfnodau cynhyrchu cyfredol ac yn y dyfodol
- defnyddio ffurfiau a fyddai’n osgoi problemau yn sgil trawsgodio niferus
- defnyddio systemau a chaledwedd gosod yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- defnyddio meddalwedd trosglwyddo ffeiliau yn unol â chyfarwyddiadau’r datblygwr
- gwirio na chaiff oedi effaith andwyol ar yr allbynnau
- dilyn confensiynau strwythur ffeil diffiniedig yn unol â gofynion y sefydliad
- ceisio cyngor a chymorth pan fo’n briodol
- cynhyrchu asedau i’w gwylio sy’n gydnaws â meddalwedd gwylio’r cleient
- cyflawni eich gwaith o fewn paramedrau amser ac ansawdd y llif gwaith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y llif gwaith cynhyrchu a lle i gaffael gwybodaeth yn eu cylch
- y bobl eraill sydd ynghlwm a’u disgwyliadau ar gyfer ffurfiau asedau
- sut i asesu paramedrau ansawdd a chyflawni i’r ansawdd gofynnol
- y cydnawsedd a’r ffurfiau sy’n ofynnol wrth drawsgodio
- sut i reoli’r newidynnau a’r problemau a all godi yn sgil trawsgodio niferus
- y confensiynau system ac enwi i’w defnyddio er mwyn sicrhau bod modd rheoli’r fersiwn
- ansawdd a goblygiadau eraill gwahanol godecau a chyfraddau cywasgu
- ffurfiau’r asedau gofynnol ar gyfer y gwahanol gamau cynhyrchu
- sut i gynhyrchu asedau ar wahanol ffurfiau
- sut caiff asedau eu cyflawni a’u hallforio
- goblygiadau oedi a sut i’w reoli
- cyflawniad terfynol yr asedau
- effaith y cyflawniad terfynol ar sut caiff y cynnwys ei ffilmio a’i recordio
- ble a sut caiff ffeiliau eu storio
- manteision creu mwy o ffurfiau nag sydd angen
- y feddalwedd y bydd cleientiaid yn ei defnyddio ar gyfer gwylio
- y gymhareb gwedd sy’n ofynnol ar gyfer cyfryngau archif
- sut i ddatrys problemau gyda ffurfiau anghydnaws
- ffynonellau cyngor a chymorth sy’n ddibynadwy
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSDP05
Galwedigaethau Perthnasol
Technegydd Effeithiau Gweledol, Golygydd, Gweithrediadau Data, Cynorthwyydd Sain, Golygydd Cynorthwyol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cynhyrchu; ôl-gynhyrchu; trawsgodio; trosglwyddo ffeiliau; meddalwedd; codec; cyfraddau cywasgu; asedau; llif gwaith; ansawdd; ‘round-tripping’ (trosglwyddo asedau allan ac yn ôl mewn); ffilm; Teledu;