Cynnig cyngor ar y broses dechnegol wrth gynhyrchu

URN: SKSDP4
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2023

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnig cyngor ar weithdrefnau i osgoi problemau technegol gydag ansawdd yn ystod y cyfnod cyn cynhyrchu, cynhyrchu neu ar ôl cynhyrchu. Mae’n ymwneud â nodi unrhyw broblemau a allai godi wrth weithio fel rhan o dîm cynhyrchu er mwyn canfod ffyrdd i sicrhau caiff ased sy’n dechnegol foddhaol ei greu, yn enwedig wrth weithio gyda thrawsgodau lluosog. Mae’n ymwneud â gwerthfawrogi a deall technoleg gyfredol a newydd ynghyd â safonau’r diwydiant er mwyn sicrhau bod gan asedau cynhyrchu oes ddigonol.

Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â chreu asedau yn ystod cynhyrchu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ffyrdd priodol o oleuo, ffilmio a recordio sain a lluniau yn unol â safonau’r diwydiant, y disgwyliadau o ran y llif gwaith, gofynion y gyllideb a’r cyflawniadau a ddisgwylir
  2. cynnig cyngor ynghylch a fyddai’r asedau sydd wedi’u cynllunio’n gyfaddas ac yn bodloni’r fanyleb ar gyfer prosesau ôl-gynhyrchu
  3. sicrhau bod eich gwybodaeth eich hun yn gyfredol o ran unrhyw newidiadau mewn technoleg, technegau cynhyrchu digidol a safonau’r diwydiant gan fanteisio ar wybodaeth o ffynonellau dibynadwy
  4. nodi problemau technegol sy’n ymwneud â lluniau neu sain a fyddai’n anodd neu’n ddrud mynd i’r afael gyda nhw ar ôl cynhyrchu
  5. ymgynghori gyda chydweithwyr perthnasol i nodi datrysiadau er mwyn mynd i’r afael â phroblemau technegol
  6. canfod datrysiadau sy’n dderbyniol ar gyfer cleientiaid pan fo’n anodd datrys problemau technegol, neu pan fo’r datrysiadau’n ddrud
  7. cyfarwyddo eraill, fel sy’n briodol, ynghylch y disgwyliadau ansawdd technegol a goblygiadau gwahanol ddulliau o recordio cynnwys cyfryngau ar gyfer y llif gwaith
  8. nodi a chynnig newidiadau technegol yn ystod cam datblygu’r llif gwaith sy’n cynyddu hyfywdra technegol neu fasnachol prosiectau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y disgwyliadau a’r gofynion technegol fel sydd wedi’u diffinio yn y llif gwaith
  2. sut i wirio bod y llif gwaith yn addas i’w ddiben
  3. y prosesau adolygu asesu ansawdd ar gyfer agweddau gweledol a sain sy’n bodloni’r safonau artistig a thechnegol disgwyliedig
  4. y ffurfiau y gellir eu defnyddio’n ddiogel ar gyfer trawsgodio lluosog heb golli ansawdd yn ormodol
  5. sut i reoli problemau gellir eu hachosi mewn cyfryngau neu mewn systemau gan drawsgodau cyfryngau lluosog
  6. y confensiynau system ac enwi y dylid eu defnyddio er mwyn rheoli fersiynau
  7. sut i reoli proffiliau recordio camerâu, gan gynnwys ‘log’, llinellol, crai, ystod ddynamig uchel, a’r goblygiadau o ddefnyddio gwahanol broffiliau
  8. egwyddorion rheoli metadata a’i bwysigrwydd
  9. egwyddorion cyflawniadau safonol a beth i’w ystyried wrth weithio gyda chyflawniadau ansafonol
  10. egwyddorion ffurfiau ffeil, rhyng-gysylltedd digidol ac elfennau o signalau sain a fideo
  11. sut i fesur elfennau hanfodol signalau sain a fideo
  12. y cyfraniad y dylid neu na ddylid ei wneud tuag at yr ansawdd technegol gan Effeithiau Gweledol a chydweithwyr ar ôl cynhyrchu gan ystyried y disgwyliadau o ran y gyllideb a disgwyliadau artistig y cleient
  13. sut gallai dulliau a ffurfiau tynnu lluniau effeithio ar Effeithiau Gweledol a phrosesau ôl-gynhyrchu
  14. y goblygiadau cost ôl-gynhyrchu ar gyfer ffilmio mewn gwahanol fathau o gyfryngau a ffeiliau
  15. sut i weithio gan gadw at gyllideb a’r ffyrdd i addasu cyllideb er mwyn bodloni gofynion newidiol
  16. sut i gyfathrebu’n effeithiol a chydweithio gyda chydweithwyr i ddatrys problemau
  17. ble i ddysgu mwy am ddatblygiadau o ran technoleg, cynhyrchu digidol ac arferion y diwydiant
  18. y safonau gwylio cyfredol, safonau darlledu technegol a’r safonau cyflawniad proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol ynghyd â mynegiant o'r arfer gorau ar gyfer gwahanol lwyfannau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

2

Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSDP04

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd Effeithiau Gweledol, Cydlynydd Cynhyrchu, Cynorthwyydd Cynhyrchu, Cynorthwyydd Camera, Person Camera, Sain-Recordydd, Gweithredwr Cyflawni Digidol, ‘Wrangler’ Data, ‘Wrangler’ Cyfryngau , Gweithredwr Rheoli Digidol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

technegol; ansawdd; cyn cynhyrchu; ôl gynhyrchu; cynhyrchu; asedau; cyfryngau; ffilm; Teledu;