Cofnodi cysondeb a manylion camera technegol yn ystod ffilmio
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal cofnodion manwl gywir ac eglur o’r holl agweddau sy’n ymwneud â cysondeb camera a manylion technegol yn ystod diwrnodau ffilmio. Mae’n ymwneud â chadarnhau’r holl fanylion technegol gyda chydweithwyr a rhoi gwybod i lwythwr y clepiwr, DIT neu’r Cynorthwyydd Camera am unrhyw anghysondebau.
Pan fo mwy nag un camera ynghlwm, mae gofynion y safon hon yn berthnasol i bob camera yn ystod ffilmio. Mae angen meddu ar wybodaeth drylwyr o’r holl ofynion o ran y camera a’r manylion technegol, ynghyd â thalu sylw gofalus i fanylion er mwyn darparu taflenni camera hollgynhwysol.
Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â chyfryngau yn ystod cynhyrchu, boed yn gweithio ar gynyrchiadau wedi’u sgriptio neu heb eu sgriptio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cofnodi’r wybodaeth angenrheidiol am bob saethiad er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd gyda saethiadau ongl-lydan dilynol
- cofnodi gwybodaeth fanwl gywir am yr union fannau cychwyn a stopio a’r amseroedd rhedeg ar gyfer pob tro
- caffael gwybodaeth fanwl gywir gan yr adran gamera ynghylch y ffurfiau, lensys, pellteroedd ffocws, cyfraddau fframiau, cyflymder caead a hidlwyr gofynnol a ddefnyddir ar gyfer pob saethiad.
- caffael gwybodaeth fanwl gywir am sut caiff sain ei recordio ac ar ba ffurf
- cadarnhau a chadw cofnodion manwl gywir o’r cynigion dewisol gyda’r cyfarwyddwyr
- cydymffurfio gyda’r ffurf gywir ar gyfer ffeiliau a metadata
- cydnabod problemau posibl neu faterion eithriadol sydd ddim yn unol â’r cynllun a’u crybwyll i’r bobl briodol
- hysbysu’r gweithwyr camera a sain o’r saethiadau dewisol ac amlygu unrhyw wahaniaethau technegol yn y cynnig i’r bobl berthnasol
- hysbysu’r bobl berthnasol o gynigion sy’n weddill a thraciau ar wahân rydych chi wedi’u nodi o’ch cofnodion eich hun
- cadw cofnodion manwl gywir ynghylch holl agweddau’r troeon cyfansawdd sydd eu hangen ar gyfer y broses ôl-gynhyrchu ac Effeithiau Gweledol (VFX) gan gynnwys saethiadau cefndirol
- cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r protocolau iechyd a diogelwch
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion y llif gwaith cynhyrchu a ble i gaffael gwybodaeth yn eu cylch
- y gwahanol ofynion ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar gynyrchiadau wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio a’r gofynion a’r agweddau ymarferol o ran yr amser a’r gyllideb ar gyfer pob un
- yr wybodaeth y dylid ei chofnodi ar gyfer pob saethiad yn y cynhyrchiad rydych chi’n gweithio arno
- ffurfiau gofynnol y ffeiliau a’r metadata a lefel y manylder y dylen nhw ei gynnwys
- y mathau o broblemau cyfatebol a allai godi
- y ffurfiau gofynnol ar gyfer y cynhyrchiad
- ble i gaffael gwybodaeth am recordio sain
- pwy sydd angen y manylion o ran lensys, pellteroedd ffocws, cyfraddau fframiau, cyflymder caead a’r hidlwyr a ddefnyddir, a pham
- pwy ddylai gael eu hysbysu am wahaniaethau technegol, problemau arfaethedig neu faterion eithriadol
- yr wybodaeth sydd angen ei chofnodi am saethiadau cyfansawdd ar gyfer Effeithiau Gweledol (VFX), pwy sydd eu hangen nhw a pham
- pwy ddylid eu hysbysu am saethiadau sy’n weddill a thraciau ar wahân
- y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r protocolau iechyd a diogelwch perthnasol