Cefnogi’r llif gwaith cynhyrchu yn eich gwaith eich hun
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda’r llif gwaith cynhyrchu i gynhyrchu gwaith sy’n bodloni’r gofynion ansawdd.
Mae’n ymwneud â pheidio ag ystyried eich gwaith chi ar wahân a hysbysu pobl eraill o unrhyw broblemau arfaethedig rydych chi’n eu nodi gyda’r llif gwaith.
Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â chynyrchiadau ar gyfer y sgrin.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwerthuso goblygiadau ymarferol y dewisiadau rydych chi’n eu gwneud yn eich rôl yn erbyn y llif gwaith cynhyrchu a’r gofynion ansawdd
- cyflawni eich gwaith chi’ch hun gydag asedau mewn ffyrdd sy’n cydymffurfio gyda’r llif gwaith cynhyrchu a’r gofynion ansawdd
- nodi a chadarnhau pryd bydd eich gwaith chi gydag asedau’n effeithio ar waith eraill yn y llif gwaith cynhyrchu
- crybwyll problemau gyda ffurfiau cynhyrchu’n eglur gyda’r bobl briodol
- cydymffurfio gyda’r system a’r confensiynau enwi er mwyn sicrhau bod modd rheoli’r fersiwn
- diogelu’r asedau rydych chi’n ymdrin â nhw yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. ble i gaffael y gofynion o ran y llif gwaith ar gyfer y prosiect rydych chi’n gweithio arno
2. y pwysigrwydd o weithio gan gydymffurfio gyda’r llif gwaith cynhyrchu y cytunwyd arno
3. y rhyngberthynas rhwng eich rôl chi a rolau pobl eraill yn y llif gwaith
4. eich disgwyliadau chi o ran eich gwaith gydag asedau
5. y cydnawsedd a’r ffurfiau sy’n ofynnol er mwyn bodloni safon dechnegol ac ansawdd gofynnol y cynhyrchiad
6. y system a’r confensiynau enwi i’w defnyddio er mwyn sicrhau bod modd rheoli’r fersiwn
7. sut i ddefnyddio’ch sgiliau technegol a’ch profiad eich hun i ychwanegu gwerth i’r broses
8. pam ei bod hi’n bwysig rhoi gwybod i bobl eraill am broblemau posibl cyn iddyn nhw godi
9. sut i hysbysu’r rheiny sydd ynghlwm â’r llif gwaith o’r problemau technegol
10. effaith y dewisiadau rydych chi’n eu gwneud ar y llif gwaith cynhyrchu
11. ble i ganfod gwybodaeth am yr agweddau technegol rydych chi’n ansicr yn eu cylch
12. sut i addasu’r llifoedd gwaith cynhyrchu i fodloni’r gofynion newidiol
13. y llinellau adrodd a’r cyfrifoldeb dros y llif gwaith cynhyrchu yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu
14. gweithdrefnau’r sefydliad s’n gysylltiedig â diogelwch asedau