Datblygu llif gwaith cynhyrchu
URN: SKSDP1
Sectorau Busnes (Suites): Llif gwaith Cynhyrchu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
31 Maw 2023
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag archwilio a nodi’r llif gwaith ynghyd â sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol drwy gydol y broses cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu. Mae’n ymwneud ag adnabod gofynion ansawdd technegol a chyflawni gan ddarlledwyr / cleientiaid / defnyddwyr terfynol, ceisio mewnbwn gan y rheiny sydd ynghlwm â chynhyrchu ac ôl-gynhyrchu a nodi a chytuno ar y llif gwaith a fydd yn cydymffurfio gyda ffurfiau cydnaws ac yn sicrhau cyn lleied o drawsgodio â phosibl.
Dylai’r safon hon fod yn berthnasol i unrhyw un sydd ynghlwm â datblygu llif gwaith ar gyfer cynhyrchiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion o ran ansawdd technegol, cyflawni, diogelwch cynnwys a’r gyllideb gan y bobl berthnasol
- ceisio mewnbwn gan y rheiny sydd ynghlwm â chynhyrchu ac ôl-gynhyrchu o ran y gofynion llif gwaith a’u heffaith ar ganlyniadau terfynol cyn i’r llif gwaith gael ei gwblhau
- nodi’r ffurfiau gorau posibl ar gyfer y llif gwaith yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu
- creu llif gwaith sy’n cydymffurfio gyda ffurfiau cydnaws ac yn sicrhau cyn lleied o drawsgodio â phosibl
- cytuno ar system, hierarchaeth ffolder/ffeil a’r confensiynau enwi pan fo’n ofynnol a fyddai’n fodd o reoli fersiynau
- pennu dulliau cyfathrebu ar gyfer y llif gwaith
- cynnal profion o un pen i’r llall i wirio y bydd y llif gwaith yn cynhyrchu cyflawniadau sy’n bodloni’r gofynion ansawdd a chyllidebol
- asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r llif gwaith cynhyrchu a nodi sut i’w lliniaru er mwyn cyflawni parhad busnes
- gwirio’r ffurfiau gofynnol ar gyfer ffilmio cyfryngau gyda chamera a sain
- nodi a chynghori’r bobl briodol pan fydd dewisiadau caffael camera a sain yn uwch na’r gyllideb neu pan na fyddan nhw’n bodloni gofynion ansawdd
- llunio gwybodaeth a dogfennau llif gwaith sy’n ofynnol gan y cyfarwyddwyr, y golygyddion a’r bobl eraill sydd ynghlwm
- rhannu’r gofynion llif gwaith gyda phawb sydd ynghlwm gan ddefnyddio sianelau cyfathrebu’r sefydliad
- gwirio bod y llif gwaith yn parhau i fod yn addas i’w bwrpas yn ystod camau allweddol o’r broses cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut gall llif gwaith cynhyrchu effeithio ar ansawdd y cyflawniadau a’r gost cynhyrchu
- gofynion y llif gwaith a ble i gaffael gwybodaeth amdanyn nhw
- y safonau technegol perthnasol sy’n gysylltiedig â ffilmio cyfraddau / cyfraddau ffrâm, aryneilio neu sganio graddol, cymhareb / eglurdeb gwedd ffilmio a chymhareb / camera rhyddhau a fwriadwyd
- y safonau perthnasol sy’n gysylltiedig â sain gan gynnwys ffurfiau sain, cyfraddau sampl, dyfnder bit, ffurf ffeil
- y rhesymau pam fod pobl yn defnyddio gwahanol ffurfiau
- y gyllideb ar gyfer y gwaith, beth ellir ei gyflawni gan gadw at y gyllideb a sut mae hyn yn effeithio ar ddewisiadau ynghylch y llif gwaith cynhyrchu
- ansawdd a goblygiadau eraill gwahanol codecau a chyfraddau cywasgu
- pa brosesau sy’n cael gwared ar metadata, y goblygiadau ar gyfer hyn ar yr allbynnau cynhyrchu a sut i reoli metadata drwy’r llif gwaith
- sut i nodi’r ansawdd technegol a’r gofynion cyflawni gan gleientiaid/darlledwyr/ defnyddwyr terfynol
- cyflawniad terfynol y llif gwaith gan gynnwys meddalwedd caiff ei ddefnyddio i wylio
- y cydnawsedd a’r ffurfiau sy’n ofynnol a sut i reoli’r newidynnau a’r problemau a allai godi yn sgil trawsgodio niferus
- y system a’r confensiynau enwi dylid eu defnyddio i sicrhau modd o reoli fersiwn
- sut i ddewis dulliau ffilmio a recordio sy’n briodol i’r cyflawniad terfynol
- y bobl sydd ynghlwm â’r cynhyrchu a’u disgwyliadau o ran ffurfiau cyfryngau
- y ffurfiau cyfryngau sy’n ofynnol ar gyfer gwahanol gamau’r gwaith cynhyrchu
- ble i ganfod gwybodaeth am agweddau technegol nad ydych chi’n sicr yn eu cylch
- pwysigrwydd cydbwyso gofynion technegol y rheiny sydd ynghlwm â’r gwaith cynhyrchu gyda dymuniadau’r cleientiaid/darlledwyr/defnyddwyr terfynol
- y llinellau adrodd a chyfrifoldeb ar gyfer llif gwaith yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu
- gweithdrefnau’r sefydliad sy’n ymwneud â diogelwch asedau
- sut i storio a chadw copïau wrth gefn o asedau, cynlluniau llif gwaith a’r cofnodion cysylltiedig gan gynnwys mewn amryw safleoedd.
- y protocolau adfer ar ôl trychineb a’u diben
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
2
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2026
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSDP01
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr Cynhyrchu, Cydgysylltydd Ol-gynhyrchu, Cynhyrchydd Llinell, Goruchwyliwr Ôl-gynhyrchu, Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu)
Cod SOC
Geiriau Allweddol
llif gwaith; ffilm; Teledu; cynhyrchu; ôl-gynhyrchu; metadata; ffurfiau cyfryngau; adfer ar ôl trychineb; asedau;