Cefnogi a rheoli cydweithwyr iau yn y diwydiannau creadigol
URN: SKSCMGS9
Sectorau Busnes (Cyfresi): Sgiliau Cyffredinol y Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â hybu a rheoli gwaith cydweithwyr iau yn eich maes gwaith chi. Gallai’r cydweithwyr iau fod yn fyfyrwyr ar brofiad gwaith, gweithwyr dan hyfforddiant neu gynorthwywyr.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- llunio cynllun gwaith gyda chydweithwyr iau er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu gwaith
- gwirio a chadarnhau bod y cynllun gwaith yn dwyn i ystyriaeth eich rôl ac awdurdod, yr adnoddau a’r graddfeydd amser
- gwirio a chadarnhau bod y cydweithwyr iau yn deall y briff, y cynllun gwaith a’r amserlen
- cyfathrebu gyda’r cydweithwyr iau ynghylch eu rôl a’u cyfrifoldebau
- gwirio a chadarnhau bod y cydweithwyr iau yn gwybod sut i ddefnyddio’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer y gwaith
- annog y cydweithwyr iau i geisio eglurder ynghylch pob agwedd o’r rôl a’r tasgau
- cynnig cyfle i’r cydweithwyr iau gyfrannu tuag at y gwaith
- monitro gwaith y cydweithwyr iau ac egluro sut gallan nhw ddatrys problemau
- canfod datrysiadau i broblemau gyda pherfformiad eich cydweithwyr iau a allai gael effaith andwyol ar amserlen neu ansawdd y gwaith
- sicrhau bod y cydweithwyr iau yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch
- cynnig adborth i’r cydweithwyr iau am eu gwaith a’u hannog i wella’u perfformiad yn y dyfodol
- gwerthuso'ch perfformiad eich hun wrth reoli’r cydweithwyr iau
- cynnal cyfrinachedd yn unol â’r ddeddfwriaeth, rheoliadau a gweithdrefnau’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y prosesau a’r gweithdrefnau i’w rhoi ar waith wrth reoli’r cydweithwyr iau
- y ddeddfwriaeth, rheoliadau a gweithdrefnau’r sefydliad y mae angen ichi gydymffurfio gyda nhw wrth reoli’r cydweithwyr iau
- pwy ddylai gyfrannu tuag at gynllunio gwaith y cydweithwyr iau
- sut i ganfod pwy sydd angen gwybod am faterion sy’n ymwneud â rheoli’r cydweithwyr iau a chynnydd eu gwaith
- pwy allai gynnig adborth ar eich perfformiad yn rheoli’r cydweithwyr iau
- dulliau o fonitro gwaith y cydweithwyr iau
- sut i gynnig adborth adeiladol i’r cydweithwyr iau
- sut i annog eraill i ddatblygu eu sgiliau a gwneud cynnydd yn eu gyrfaoedd
- sut i werthuso adborth ynghylch eich perfformiad eich hun
- sut i gadw gwybodaeth yn unol â’r ddeddfwriaeth, rheoliadau, gweithdrefnau eich sefydliad a’r gofynion diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSGS9
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Y Celfyddydau, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt y Cyfryngau, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol, Galwedigaethau Marchnata Digidol, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Marchnata, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Dylunio; , Gwasanaethau Technegol a Dosbarthu (Ffilm a Theledu), Gweithwyr Proffesiynol Effeithiau Arbennig Corfforol, Rolau Cymorth Technegol ar gyfer Recordio Sain a Thechnoleg Cerddoriaeth
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cymorth; cynllun gwaith; adnoddau; graddfeydd amser; cydweithwyr iau; rolau a chyfrifoldebau; amserlen gwaith; adborth adeiladol; cyfrinachedd; diwydiannau creadigol;