Rheoli gwaith timau yn y diwydiannau creadigol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith eich tîm ac ystyried sut i wella perfformiad eich tîm.
Mae’n ymwneud â sicrhau bod eich tîm yn cydymffurfio â gofynion y briff ac os nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r gofynion, mae’n ymwneud ag ymchwilio’r rhesymau dros hyn drwy gyfathrebu gyda’r aelodau priodol o’ch tîm.
Mae hefyd yn ymwneud ag ystyried ffyrdd y gellir gwella ansawdd y gwaith, a’r dulliau gweithio a rhannu hyn gyda’ch tîm a’r unigolion yn eich tîm mewn dull cadarnhaol. Mae gofyn ichi gydymffurfio gyda’r holl ddeddfwriaethau iechyd a diogelwch a chyflogaeth perthnasol wrth reoli’ch tîm.
Gellir defnyddio’r safon hon ynghlwm â phob rôl yn y diwydiannau sgrin ac mae hefyd yn berthnasol i rolau diwydiant creadigol ehangach fel enghraifft theatr, digwyddiadau byw, treftadaeth ddiwylliannol a galwedigaethau dylunio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- hysbysu’ch tîm o gwmpas eu gwaith
- monitro perfformiad y tîm
- sicrhau bod yr asesiadau risg ynghlwm â gwaith eich tîm wedi’u cwblhau
- llunio cynllun gwaith sy’n ymdrin â chi’ch hun a’ch tîm
- cadarnhau bod pob aelod o’ch tîm yn ymwybodol o’r gweithgareddau penodol maen nhw’n gyfrifol amdanyn nhw
- cynnig cyfle i’r unigolion gyfrannu tuag at eu datblygiad personol eu hunain
- cynnig cyngor a chanllawiau i fodloni anghenion y briff a’r unigolyn
- gwirio bod eich tîm yn deall y weithdrefn ar gyfer ymdrin â phroblemau a phwy ddylech chi adrodd problemau iddyn nhw, sut a phryd
- ystyried y camau gweithredu sydd i’w cyflawni er mwyn bodloni’r briff a gwella perfformiad yr unigolyn
- cynnig adborth i’ch tîm ynghylch y prosiect cyffredinol a’i gynnydd
- ymgynghori gyda’ch tîm am awgrymiadau i wella perfformiad yn y dyfodol
- ceisio cyfleoedd i wella cynhyrchiant a llif gwybodaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sgiliau eich tîm a’u cwmpas o ran cyfrifoldebau swydd
- sut i rannu gofynion y briff a’r arddull creadigol i’ch tîm a chadarnhau eu bod yn deall
- sut i lunio cynllun gwaith sy’n ymdrin â’r rolau a’r cyfrifoldebau’n eglur
- pwysigrwydd cynnig cyfle i’r unigolion gyfrannu er mwyn llywio’u datblygiad personol
- y person sy’n gyfrifol am gwblhau asesiadau risg a’ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch mewn perthynas â phobl eraill
- y gwahaniaethau mewn rheoli timau hybrid, o bell, aml-safle, aml barth amser
- pwysigrwydd hysbysu eich tîm y byddwch chi’n monitro eu perfformiad, beth fyddech chi’n chwilio amdano a sut gallan nhw gaffael adborth
- y camau gweithredu priodol i’w cyflawni yn dilyn perfformiad anfoddhaol gan aelod o’r tîm
- y deddfwriaethau, y rheoliadau a’r gweithdrefnau sefydliadol sy’n berthnasol i reoli pobl eraill a’r gwaith sy’n cael ei gyflawni